Tŷ pâr dwy ystafell wely yn Ffordd Werdd, Gors-las
15 Ffordd Werdd, Gors-las, Sir Gaerfyrddin, SA14 7NE

£108,528.00

Manylion Allweddol

Mae'r tŷ pâr hwn â dwy ystafell wely, sydd wedi'i gyflwyno'n dda, yn Ffordd Werdd.  Mae'r cartref hwn yn agos at Cross Hands lle y mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael, gan gynnwys siopau manwerthu, sinema, ysgol, campfa a chanolfannau meddygol a deintyddol. Mae gan y cartref hwn gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer dau gerbyd, gardd gefn a llecyn graean o flaen y tŷ. 
 
Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.
 
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi. 
 
Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 22 Awst 2023.
Y pris fforddiadwy yw £108,528.00. Gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £160,000.00 felly byddech yn talu 67.83% o'r ecwiti.
 
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail bridiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth. 
  • Llawr gwaelod: Ystafell fyw / cegin cynllun agored a thoiled ar y llawr gwaelod
  • Y llawr cyntaf: Dwy ystafell wely ac ystafell ymolchi deuluol
  • Allanol: Gardd gefn, llecyn graean o flaen y tŷ a man parcio preifat ar gyfer dau gar
Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a system wresogi drydan o dan y llawr. 
 
Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni y cartref hwn ar gael. 
I gael rhagor o fanylion am y tŷ hwn neu i drefnu apwyntiad i'w weld, cysylltwch â'r perchennog, Miss Shawyer, drwy ffonio 07570 093 255 neu anfonwch e-bost at jenny.shawyer@gmail.com. Gellir gweld y tŷ drwy apwyntiad yn unig.
 

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai