Tŷ pâr dwy ystafell wely ar werth yn Llanelli
74 Maes y Glo, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 9PZ

83,190.00

Manylion Allweddol

Tŷ pâr â dwy ystafell wely yw'r tŷ fforddiadwy hwn, sydd wedi'i leoli ar safle Parc Brynderi yn Llanelli, sydd ar gyrion tref Llanelli. Maent ar gyrion Llanelli, lle mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael, gan gynnwys siopau manwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa. Bydd gennych gysylltiadau ffyrdd da lle gallwch gyrraedd yr M4 drwy'r A4138. Mae Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin oll o fewn pellter teithio hawdd, ac felly mae'r lleoliad hwn yn un delfrydol. Rhydd-ddeiliadaeth. Band Treth Y Cyngor D.
Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi. 
Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn o 27 Tachwedd 2023 ymlaen.

Y pris fforddiadwy yw £83,190 a gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £150,000 felly byddech yn talu 55.46% o ecwiti.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.

  • Y Llawr Gwaelod: Cegin, ystafell fwyta ac ystafell fyw cynllun agored, toiled lawr stâr
  • Y Llawr Cyntaf: Dwy ystafell wely ac ystafell ymolchi i'r teulu
  • Allanol: Gardd gefn a lle parcio ar gyfer un gar
Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.
Y Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) y tŷ hwn yw cyffradd B.
I drefnu gweld y tŷ a gofyn am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mr Gorvett drwy e-bost markgorve@hotmail.co.uk neu ffoniwch ar 07790 515 371.

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai