Dŷ teras pen 3 ystafell wely ar werth yn Meysydd Y Coleg.
79 Meysydd Y Coleg, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3GR

£125,948.00

  • photos
Dan
gynnig
Floor plan

Manylion Allweddol

Mae'r cartref fforddiadwy hwn yn Dŷ teras pen 3 ystafell wely. Mae'r eiddo ar gyrion Caerfyrddin. Mae'n agos i Goleg y Drindod a swyddfeydd S4C. Gan fod yr eiddo yn agos i Gaerfyrddin mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael sy'n cynnwys siopau adwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol, ysgolion, colegau a champfa. Mae cysylltiadau ffyrdd da â Llanelli ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. 
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi. 
Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 9 Ionawr 2024.
Y pris fforddiadwy ar gyfer yr eiddo hwn yw £125,948, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £185,000 felly byddech yn prynu 68.08% o'r eiddo hwn.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail bridiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.
  • Y Llawr Gwaelod: cegin, lolfa a toiled lawr staer.
  • Y Llawr Cyntaf: tair ystafell wely a ystafell ymolchi i'r teulu. Mae’r prif ystafell wely ag en-suite,
  • Y tu allan: Gardd gefn a man parcio preifat i ddau gar.
Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.
Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni y cartref hwn ar gael. 

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai