Tŷ canol teras dwy ystafell wely ar werth yn Heol Cae Pownd
91 Heol Cae Pownd, Cefneithin, Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, SA14 7BX

£103,274.00

Manylion Allweddol

Dyma dŷ canol teras dwy ystafell wely wedi'i gyflwyno'n dda yn Cefneithin, ar gyrion Cross Hands lle mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael gan gynnwys siopau manwerthu, sinema, ysgol, campfa, deintyddfeydd a chanolfannau meddygol. Mae gan y tŷ gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer un cerbyd, gardd gefn a llecyn graean o flaen y tŷ. 
Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi. 
Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 19 Ionawr 2024.
Y pris fforddiadwy yw £103,274. Gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £148,000 felly byddech yn talu 69.78% o'r ecwiti.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth. 
  • Llawr Gwaelod: Neuadd y Fynedfa, ystafell fyw, cegin a thoiled ar y llawr gwaelod
  • Y llawr cyntaf: Dwy ystafell wely ac ystafell ymolchi deuluol
  • Allanol: Gardd gefn, ardal graeanog o flaen y tŷ a man parcio preifat ar gyfer un car
Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy. 
Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni y tŷ hwn ar gael. 
I gael rhagor o fanylion ynghylch y tŷ hwn neu i drefnu apwyntiad i weld y tŷ, cysylltwch â'r perchennog, sef Miss Davies, drwy ffonio 07528174999 neu anfon neges e-bost at Rachel-Davies-x@hotmail.co.uk. Gellir gweld yr eiddo drwy apwyntiad yn unig.

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.

Tai