Adnewyddu Canol Trefi

Gwaith/costau cymwys & Gwaith anghymwys

Bydd yr adeilad sy'n destun y cais yn cael ei asesu i sicrhau y byddai'r gwaith arfaethedig drwy'r grant yn gwella esthetig gweledol yr adeilad.
Bydd gwaith cymwys yn cynnwys gwaith i'r tu allan a chwrtil adeiladau masnachol. Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau, gan ddefnyddio cyngor proffesiynol priodol yn ôl yr angen, fod y gwaith arfaethedig yn dechnegol addas, bod ganddo uniondeb strwythurol, a'i fod wedi sicrhau pob caniatâd a thrwydded statudol priodol lle bo'n berthnasol. Mae gwaith i'r lloriau uchaf yn gymwys ar yr amod bod y llawr gwaelod yn cael ei ddefnyddio'n fasnachol. Mae enghreifftiau o wariant cymwys wedi'i gynnwys isod:
Mae enghreifftiau o wariant cymwys yn cynnwys;
  • Addurno ffasâd adeilad
  • Glanhau cwteri
  • Cyfnewid cwteri / pibellau wedi'u difrodi
  • Adnewyddu rendro
  • Trin / cyfnewid ffenestri

Gwaith/costau anghymwys  

Mae’r rhain yn cynnwys: - 
  • Ni fydd prosiectau preswyl yn gymwys am yr arian hwn.
  • Unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r prosiect cyn cael caniatâd.
  • Ffioedd cyfreithiwr
  • Ffioedd statudol gan gynnwys cynllunio, newid defnydd, caniatâd adeilad rhestredig ac ati
  • Gwaith nad yw'n cyfrannu at welliant gweledol yr eiddo.
  • Gwaith na fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i wella'r amgylchedd yn gyffredinol yn yr ardal, er enghraifft gwaith i weddluniau eiddo na fydd y cyhoedd yn eu gweld.
  • Unrhyw waith nad yw wedi cael ei gaffael yn unol â rheolau caffael trydydd parti.