Seremoni Wobrwyo Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/01/2026
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gynnal Seremoni Wobrwyo Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, gan ddathlu'r busnesau a'r unigolion rhagorol sy'n hyrwyddo'r sir fel lle i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y llynedd, ymgasglodd Llysgenhadon Twristiaeth gwahoddedig yn y Brif Siambr i gael eu cydnabod yn ffurfiol am eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u cyfraniad i'r diwydiant twristiaeth lleol. Cyflwynwyd tystysgrif swyddogol i bob Llysgennad i gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw'n ei chwarae wrth arddangos diwylliant, tirweddau, atyniadau a chymunedau cyfoethog Sir Gâr.
Cynhaliwyd y seremoni gan Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Dot Jones. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu cyflawniad ynghyd â dod ag eiriolwyr angerddol o bob cwr o'r sir ynghyd sy'n helpu i greu profiadau cofiadwy i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Gyda mwy na 400 o Lysgenhadon Twristiaeth bellach ledled Sir Gâr, mae'r cynllun yn parhau i fynd o nerth i nerth. O letygarwch ac atyniadau i sefydliadau manwerthu, treftadaeth a chymunedol, mae Llysgenhadon yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo'r sir gyda balchder, gwybodaeth a dilysrwydd.
Roedd y bore yn cynnwys lluniaeth, y seremoni gyflwyno ffurfiol gan Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Dot Jones, a gweithdy, gan roi cyfle i'r mynychwyr gysylltu, rhannu syniadau a chryfhau partneriaethau ar draws y sector twristiaeth.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn diolch yn ddiffuant i'r holl Lysgenhadon Twristiaeth am eu hymroddiad parhaus. Mae eich angerdd yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn helpu i sicrhau bod Sir Gâr yn parhau i gynnig croeso cynnes a phrofiadau arbennig i bawb sy'n ymweld â'r sir.































