Sbwriel heb ei gasglu
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2025
Rydym yn defnyddio cerbydau amrywiol i gasglu eich gwastraff. Er y gall rhai casgliadau ddigwydd ar yr un diwrnod, er enghraifft bagiau du a photeli a jariau gwydr, maent yn cael eu casglu ar wahanol adegau rhwng 6am a 2pm. Peidiwch â rhoi gwybod am unrhyw wastraff sydd heb ei gasglu tan ar ôl 2pm a dilynwch y cyngor isod yn gyntaf.
Cyn i chi roi gwybod am fagiau sydd heb eu casglu, cofiwch:
- Gwirio eich bod wedi rhoi'ch bagiau ailgylchu a'ch bagiau du allan ar y diwrnod/yr wythnos gywir. Gallwch wirio'ch diwrnodau casglu unrhyw bryd. Gallwch wirio'ch diwrnodau casglu unrhyw bryd drwy nodi eich côd post isod. Cofiwch edrych am newidiadau ar wyliau banc.
- Gwirio nad ydym wedi rhoi sticer ar eich cynwysyddion oherwydd eich bod wedi eu gorlenwi neu oherwydd eu bod yn cynnwys eitemau anghywir. Efallai y bydd y sticer yn gofyn i chi ddidoli cynnwys eich cynhwysydd yn gywir mewn pryd ar gyfer eich casgliad nesaf. Os oes sticer, dilynwch y canllawiau arno. Cofiwch fod cyfyngiad o 3 bag du fesul casgliad, gellir cael rhagor o gymorth a chyngor ar ein tudalen we bagiau du.
- Gwirio faint o'r gloch rydych chi'n rhoi eich bagiau ailgylchu neu fagiau du allan? Rydyn ni'n casglu'r rhain unrhyw bryd o 6am, felly dylech chi roi eich cynwysyddion allan cyn yr amser hwn. Os byddwch chi'n eu rhoi allan yn rhy hwyr ac yn colli eich casgliad, gallwch fynd â nhw i'ch canolfan ailgylchu agosaf.
- Gwirio a yw bagiau ailgylchu a bagiau du eich cymdogion wedi cael eu casglu? Os ddim, mae'n bosibl ein bod yn rhedeg yn hwyr.
- Edrych ar ein tudalen we tarfu ar gasgliadau gwastraff am unrhyw oedi mawr yn eich ardal.
Os nad ydych yn gallu deall y rheswm dros adael eich bagiau ailgylchu neu fagiau du ar ôl, rhowch wybod bod y biniau heb eu casglu ar ôl 2pm ar eich diwrnod casglu.