Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r polisi ar gyfer codi tâl ar bersonau sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal a chymorth, cymorth i ofalwyr sy’n oedolion, neu rai sy’n derbyn gwasanaethau ataliol penodol (a elwir yn ‘berson(au)’ yn y polisi hwn), a ddarperir neu a gomisiynir gan Gyngor Sir Caerfyrddin (a elwir yn 'Sir Gaerfyrddin’).

 

2. Cefndir Cyfreithiol

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ('y Ddeddf') ynghyd â Rheoliadau a chodau ymarfer i rym ar 6 Ebrill 2016.

Mae Rhan 4 (Taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (Codi Tâl ac Asesiadau Ariannol) y Ddeddf yn ymwneud â chodi tâl am wasanaethau.

Mae Rhan 5 o’r Ddeddf (Codi Tâl ac Asesiadau Ariannol) yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer codi tâl am wasanaethau Gofal a Chymorth, ac ategir y rhan hon o’r Ddeddf gan reoliadau a chod ymarfer. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ymdrin â chodi tâl am bob math o ofal gan gynnwys darparu gofal a chymorth a/neu Daliadau Uniongyrchol i berson yn ei gartref ei hun a/neu mewn cartref gofal. Y mae hefyd yn cynnwys taliadau cymorth i ofalwyr. Yn ogystal â hyn, ymdrinnir â materion technegol pellach, gan gynnwys dewis llety ac adennill dyledion.

Mae'r trefniadau i godi tâl am wasanaethau wedi'u nodi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn y rheoliadau a'r cod ymarfer a luniwyd o dan y Ddeddf a gaiff eu diwygio o dro i dro, ac a elwir yn 'ddeddfwriaeth' drwy gydol y polisi hwn.

 

3. Canllawiau Gweithredu

Bydd Sir Gaerfyrddin yn cymhwyso'r ddeddfwriaeth a nodir gan Lywodraeth Cymru ynghyd â newidiadau a diwygiadau a gyhoeddir o bryd i'w gilydd.

Lle bo gan Sir Gaerfyrddin yr hawl i ddewis ynghylch cymhwyso rhai agweddau ar y ddeddfwriaeth, mae'r ddogfen hon yn esbonio sut y caiff yr agweddau hynny eu cymhwyso.

Yr egwyddor gyffredinol yw, os gofynnir i bobl dalu tâl, na fydd ond yn ofynnol iddynt dalu'r hyn y gallant ei fforddio.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am yr holl wasanaethau a nodir yn y polisi hwn ac yn adolygu'r gwasanaethau y mae'n codi tâl amdanynt o bryd i'w gilydd.

Pan godir tâl, bydd Sir Gaerfyrddin yn casglu'r taliadau hynny'n unol â'r ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bawb, a sicrhau na chaiff gwasanaethau eu cymorthdalu'n annheg o'r pwrs cyhoeddus.

Amlinellir rheolau gweithredol ar gyfer cychwyn neu derfynu pecynnau gofal yn “Atodiad 1”. Mae’r rheolau ar gyfer amrywio taliadau i’r person ag anghenion gofal a chymorth hefyd wedi’u diffinio.

4. Gosod Taliadau am Wasanaethau

Bydd Sir Gaerfyrddin fel arfer yn adolygu ei thaliadau a'r ffioedd y mae'n eu talu i ddarparwyr yn flynyddol yn rhan o'r broses o bennu'r gyllideb, ond gall eu hadolygu'n amlach, lle bo hynny'n briodol neu'n angenrheidiol. Gweler y taliadau presennol yng Nghrynhoad Taliadau Sir Gaerfyrddin.

 

5. Uchafswm Tâl Wythnosol

Wrth godi tâl am wasanaethau dibreswyl bydd Sir Gaerfyrddin yn cymhwyso'r uchafswm tâl wythnosol (a elwir yn 'Gap') fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr uchafswm tâl yn berthnasol i’r gwasanaethau hynny yr asesir person i'w derbyn. Ni fydd yr uchafswm tâl (y cap) yn cynnwys y gwasanaethau hynny y codir amdanynt drwy gyfradd safonol neu a ystyrir yn gostau byw arferol, a chodir am y gwasanaethau hynny ar ffurf tâl ychwanegol.

Ar gyfer lleoliadau cartref gofal yr uchafswm tâl wythnosol fydd cost lawn y lleoliad.