Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth

Mae'r wythnos codi tâl yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul

DS - Ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl (lle codir tâl) efallai na fydd y rheolau a nodir isod o reidrwydd yn effeithio ar y swm y mae'r person yn ei gyfrannu bob wythnos; bydd y derbynnydd gofal yn talu'r lleiaf o'r canlynol:

  • Ei gyfraniad sy'n seiliedig ar asesiad ariannol
  • Y tâl am y gwasanaeth a ddarperir.
  • Yr uchafswm tâl wythnosol (y cap)


1. Dechrau

Gofal Cartref – Pecynnau wedi'u Comisiynu mewn Oriau/Munudau ac Ymweliadau (Taliadau Dibreswyl) – bydd cyfanswm yr oriau bob wythnos yn cael ei rannu â 7 a'r canlyniad yn cael ei luosi â nifer y diwrnodiau sy'n weddill yn yr wythnos, gan gynnwys y diwrnod dechrau.

Oriau a Gomisiynir yr Wythnos (Dim Ymweliadau) (Taliadau Dibreswyl) – cyfanswm yr oriau a ddarparwyd yr wythnos honno.

Gwasanaethau a Gomisiynir mewn Sesiynau/Dyddiau (Taliadau Dibreswyl) – codi tâl am y sesiynau/diwrnodau gwirioneddol a dderbyniwyd gan gynnwys y diwrnod dechrau (gweler 4 am ddiffiniad o sesiynau)

Technoleg Gynorthwyol Arbenigol (Taliadau Dibreswyl) – Codir tâl am nifer y diwrnodau sy'n weddill yn yr wythnos, gan gynnwys y diwrnod dechrau.

Gofal seibiannol/tymor byr (Taliadau Dibreswyl) - Codir tâl am nifer y nosweithiau sy'n weddill yn yr wythnos gan gynnwys y diwrnod dechrau. Os oes Cost Ychwanegol, cymhwysir y gost honno am nifer y diwrnodiau sy'n weddill yn yr wythnos, gan gynnwys y diwrnod dechrau (pro-rata)

Lleoliad cartref gofal dros dro/parhaol – Codir tâl am nifer y nosweithiau sy’n weddill yn yr wythnos gan gynnwys y diwrnod dechrau (pro-rata), yn seiliedig ar y cyfraniad yn yr asesiad ariannol. Os oes Cost Ychwanegol, cymhwysir y gost honno am nifer y diwrnodiau sy'n weddill yn yr wythnos, gan gynnwys y diwrnod dechrau (pro-rata).

 

2. Terfynu

Pecynnau wedi'u Comisiynu mewn Oriau/Munudau ac Ymweliadau (Taliadau Dibreswyl) – bydd cyfanswm yr oriau bob wythnos yn cael ei rannu â 7 a'r canlyniad yn cael ei luosi â nifer y diwrnodiau sydd wedi mynd heibio yn yr wythnos hyd at y diwrnod cyn y diwrnod terfynu.

Oriau a Gomisiynir yr Wythnos (Dim Ymweliadau) (Taliadau Dibreswyl) – cyfanswm yr oriau a ddarparwyd yr wythnos honno.

Gwasanaethau a Gomisiynir mewn Sesiynau/Dyddiau (Taliadau Dibreswyl) – codir tâl am y sesiynau/diwrnodiau gwirioneddol a dderbyniwyd hyd at ac yn cynnwys y diwrnod terfynu. (gweler 4 am ddiffiniad o sesiynau)

Technoleg Gynorthwyol Arbenigol (Taliadau Dibreswyl) - Codir tâl am nifer y diwrnodiau a aeth heibio yn yr wythnos hyd at y diwrnod cyn y diwrnod terfynu/dyddiad gwneud cais i gael gwared â'r gwasanaeth.

Gofal seibiannol/byrdymor (Taliadau Dibreswyl) – Codir tâl am nifer y nosweithiau a dderbynnir hyd at y diwrnod terfynu. Os oes Cost Ychwanegol, cymhwysir y gost honno am nifer y nosweithiau a dderbynnir hyd at y diwrnod terfynu (pro-rata).

Lleoliad cartref gofal dros dro/parhaol – Codir tâl am nifer y nosweithiau a dderbyniwyd hyd at y diwrnod terfynu (pro-rata), yn seiliedig ar y cyfraniad yn yr asesiad ariannol. Os oes Cost Ychwanegol, cymhwysir y gost honno am nifer y nosweithiau a dderbynnir hyd at y diwrnod terfynu (pro-rata).

 

3. Ymweliadau/Gwasanaeth a Gollwyd

Gofal Cartref – Pecynnau wedi'u Comisiynu mewn Oriau/Munudau ac Ymweliadau (Taliadau Dibreswyl) - Cyfanswm yr oriau wedi'u rhannu ag ymweliadau a'u lluosi â nifer yr ymweliadau a gollwyd - i'w didynnu o'r pecyn.

Oriau a Gomisiynir yr Wythnos (Dim Ymweliadau) (Taliadau Dibreswyl) – cyfanswm yr oriau a ddarparwyd yr wythnos honno.

Gwasanaethau a Gomisiynir mewn Sesiynau/Dyddiau (Taliadau Dibreswyl) – Didynnu'r sesiynau/diwrnodiau gwirioneddol a gollwyd. (gweler 4 am ddiffiniad o sesiynau)


Technoleg Gynorthwyol Arbenigol (Taliadau Dibreswyl) – Ni chaiff y gwasanaeth ei ddiwygio, a chodir tâl amdano drwy gydol yr amser, nes gwneud cais i ddileu'r gwasanaeth/fynd â'r offer ymaith.

 

4. Sesiynau Gofal Dydd

Diffinnir sesiwn gofal dydd fel a ganlyn:

Os derbynnir gwasanaeth cyn 1pm ar unrhyw ddydd, ac am unrhyw gyfnod o amser, bydd yn cyfrif fel un sesiwn.

Os derbynnir gwasanaeth rhwng 1pm a 6pm ar unrhyw ddydd ac am unrhyw gyfnod o amser, bydd yn cyfrif fel un sesiwn.

Os derbynnir gwasanaeth ar ôl 6pm ar unrhyw ddydd ac am unrhyw gyfnod o amser, bydd yn cyfrif fel un sesiwn.