Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Taliadau Gohiriedig

22. Taliadau Gohiriedig

Pan fo gan berson ag anghenion gofal a chymorth eiddo sydd wedi’i gynnwys yn ei asesiad ariannol, gall ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig â Sir Gaerfyrddin mewn rhai amgylchiadau. Os cytunir ar daliad gohiriedig, bydd hynny'n galluogi'r person i oedi cyn talu cyfran neu'r cyfan o'u costau gofal, neu ohirio'r taliadau hynny, gan gynnwys cyfraniadau Cost Ychwanegol hyd yn ddiweddarach, fel nad oes rhaid iddo werthu ei eiddo yn syth ar ôl mynd i gartref gofal. Gall y trefniant hwn gynnig hyblygrwydd ychwanegol o ran sut a phryd y bydd y person ag anghenion gofal a chymorth yn talu ei gostau gofal.

Penderfynir yn yr asesiad ariannol ar y swm y ceir ei ohirio bob wythnos. Bydd Sir Gaerfyrddin yn gohirio taliadau gofal a chymorth sydd yn llawer mwy na'r incwm y mae gan y person hawl iddo, gan gynnwys incwm rhent lle bo'r eiddo wedi'i rentu drwy gytundeb blaenorol â Sir Gaerfyrddin.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn trefnu prisiad proffesiynol o eiddo ac yn gohirio swm hyd at werth buddiant y person mewn eiddo, gan ganiatáu swm ar gyfer costau gwerthu, fel y nodir yn y ddeddfwriaeth. Lle bo'n briodol, caiff yr eiddo ei ailbrisio o bryd i'w gilydd er mwyn pennu'r swm y gellir ei ohirio.

Bydd pobl sy’n ceisio neu’n cael cynnig taliadau gohiriedig yn cael eu cynghori i geisio cyngor ariannol a/neu gyfreithiol annibynnol i sicrhau bod personau neu eu cynrychiolwyr yn deall telerau'r cytundeb taliadau gohiriedig, a'r ymrwymiad y maent yn cytuno iddo.

Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi llog ar symiau gohiriedig ar y cyfraddau llog a bennir o fewn y ddeddfwriaeth. Bydd llog yn daladwy o ddiwrnod 91 ar ôl i'r Cytundeb Taliadau Gohiriedig ddod i ben.

Bydd y person ag anghenion gofal a chymorth yn atebol am unrhyw gostau a ysgwyddir ganddo, ee, ffioedd cyfreithiol, cyngor ariannol ac ati, i'w alluogi i ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig. Bydd y costau hyn yn ychwanegol at unrhyw ffioedd a thaliadau a godir gan yr awdurdod lleol. Bydd Sir Gaerfyrddin yn cymhwyso tâl cyfradd safonol am sefydlu Cytundeb Taliadau Gohiriedig.

Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi’n fanwl y meini prawf cymhwysedd y mae angen eu bodloni, er mwyn i berson ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig, a bydd Sir Gaerfyrddin yn gweithredu'r meini prawf cymhwysedd hynny fel y’u nodir yn y ddeddfwriaeth.

Wrth gytuno i ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig, bydd Sir Gaerfyrddin yn trefnu'r contract ar gyfer y lleoliad yn uniongyrchol, neu bydd yn rhaid iddi wneud hynny gydag asiantaeth bartner. Ni fydd cytundebau taliadau gohiriedig ar gael i bobl ag anghenion gofal a chymorth sy'n sefydlu eu contract eu hunain, neu drwy 3ydd parti neu unrhyw asiantaeth arall.

Os na all Sir Gaerfyrddin greu arwystl â blaenoriaeth uwch, ac ar lefel uwch nag unrhyw fuddiant neu arwystl arall ar yr eiddo, gall Sir Gaerfyrddin ystyried arwystl lefel is os yw'n fodlon bod y ddyled a allai gronni wedi'i diogelu'n ddigonol, ond mater i'w benderfynu gan Sir Gaerfyrddin ei hun fydd hynny. Bydd llog yn daladwy ar y gyfradd gyffredinol o ddiwrnod 91 ar ôl i'r lleoliad cartref gofal ddod i ben. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi safonol am y trefniant hwn.

Os na all Sir Gaerfyrddin greu arwystl ar yr eiddo y mae'r person yn ei feddiannu fel ei brif neu unig gartref, beth bynnag fo'r rheswm am hynny, a'i bod yn fodlon bod yr ased(au) a gynigir fel sicrwydd yn lle hynny yn ddigonol i gyd-fyd â gwerth y ddyled fydd yn cronni tra bo'r person ag anghenion gofal a chymorth yn y cartref gofal, caiff Sir Gaerfyrddin benderfynu ohoni ei hun i roi arwystl ar eiddo neu dir arall. Bydd llog yn daladwy ar y gyfradd gyffredinol o ddiwrnod 91 ar ôl i'r lleoliad cartref gofal ddod i ben. Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi ffi safonol am y trefniant hwn.
Os nad yw person ag anghenion gofal a chymorth yn bodloni gofynion y cynllun, gwrthodir cais am daliad gohiriedig.

Gall Sir Gaerfyrddin wrthod gohirio unrhyw gostau gofal pellach, hyd yn oed lle bo cytundeb taliadau gohiriedig wedi'i sefydlu, ac mewn rhai amgylchiadau bydd yn gwneud hynny. Pan weithredir penderfyniad o'r fath, bydd yn unol â'r ddeddfwriaeth a/neu delerau ac amodau'r cytundeb taliadau gohiriedig a bydd Sir Gaerfyrddin yn egluro sail ei phenderfyniad.