Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol

Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Daliadau am Wasanaethau sy'n Deestun Asesiad Ariannol

 

- Pob Gwasanaeth y Codir Tâl Amdano
Dechrau gwasanaeth Tâl o'r diwrnod 1af pan dderbynnir y gwasanaeth - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.
Terfynu gwasanaeth yn barhaol Codir y tâl hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad terfynu - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.
Colli galwad - bai'r darparwr/gofalwr Cymhwysir gostyngiad i'r gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel bo'n briodol) ac ailgyfrifo'r tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.
Galwad/gwasanaeth wedi’i ganslo – bai/cais y person ag anghenion gofal a chymorth, ee, y person ag anghenion gofal a chymorth ar wyliau Os yw person ag anghenion gofal a chymorth yn rhoi rhybudd rhesymol ymlaen llaw (24 awr) i'r darparwr gwasanaeth, bydd gostyngiad yn cael ei gymhwyso i'r gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel bo'n briodol) a'r tâl yn cael ei ailgyfrifo (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'
Lefel is o wasanaeth oherwydd tywydd gwael - galwadau wedi'u colli Cymhwysir gostyngiad i'r gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel bo'n briodol) ac ailgyfrifo'r tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.
Y person ag anghenion gofal a chymorth yn derbyn gofal preswyl seibiannol/byrdymor a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl yn yr un wythnos Cymhwysir gostyngiad i'r gwasanaeth dibreswyl a dderbynnir fel arfer (gwirioneddol neu gyfartalog fel bo'n briodol) ac ailgyfrifo'r tâl i gynnwys gofal seibiannol/byrdymor (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.
Gwasanaeth ddim ar gael Cymhwysir gostyngiad i'r gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel bo'n briodol) ac ailgyfrifo'r tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.
Person ag anghenion gofal a chymorth dibreswyl yn cael ei dderbyn i'r ysbyty Cymhwysir gostyngiad i'r gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel bo'n briodol) ac ailgyfrifo'r tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.

Un gwasanaeth yn peidio yn ystod yr wythnos, ond rhai eraill yn parhau/gwasanaeth gwahanol yn dechrau
Cymhwysir gostyngiad i'r gwasanaeth (gwirioneddol neu gyfartalog fel bo'n briodol) ac ailgyfrifo'r tâl (efallai na fydd y tâl yn newid) - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.
Derbyn gwasanaeth(au) ychwanegol heb eu cynllunio Ni chodir tâl nes i'r gwasanaeth ddod yn rhan o'r Cynllun Gofal a Chymorth. Codir tâl o'r diwrnod 1af pan dderbynnir y gwasanaeth asesedig - yn unol â'r 'Rheolau Gweithredol ar gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau'.
Arosiadau yn yr Ysbyty - Gofal Preswyl Codir y tâl arferol yn seiliedig ar asesiad ariannol pan fo person ag anghenion gofal a chymorth yn cael ei dderbyn i'r ysbyty a'r lleoliad yn cael ei gadw. Os oes Cost Ychwanegol, bydd yn rhaid talu'r tâl hwn yn ychwanegol at dâl yr asesiad ariannol.
Gwyliau/arosiadau byr gyda theuluoedd drwy gytundeb ymlaen llaw – Gofal Preswyl Bydd y person ag anghenion gofal a chymorth yn parhau i orfod talu tâl yr asesiad ariannol. Os oes Cost Ychwanegol, bydd yn rhaid talu'r tâl hwn yn ychwanegol at dâl yr asesiad ariannol.