Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Yn yr adran hon
- Rheoli Eiddo a Chyllid
- Eiriolaeth
- Taliadau Gohiriedig
- Anfonebu am Daliadau
- Methu Taliadau a Dyled
- Amddifadu o Asedau
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Parhaol/Dros Dro i Gartref Gofal
- Costau Ychwanegol (CY) am Dderbyniadau Seibiannol/Byrdymor i Gartref Gofal
- Cymhwyso'r Rheolau i Achosion Unigol
- Adolygiadau a Dulliau Apelio
- Atodiad 1 - Amrywiadau/Addasiadau i Daliadau am Wasanaethau sy'n Deestun Asesiad Ariannol
- Atodiad 2 - Rheolau Gweithredol ar Gyfer Dechrau a Therfynu Pecynnau Gofal a Chymorth
Gwasanaethau Codi Tâl
6. Gwasanaethau Lle Na Chodir Tâl
Ni fydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am y canlynol:
- Gwasanaethau Gofal a Chymorth i blentyn dan 18 oed.
- Gofal a Chymorth a ddarperir i rai â Chlefyd Creutzfeldt Jacob lle bo diagnosis clinigol o'r clefyd hwnnw gan ymarferydd meddygol cofrestredig.
- Gwasanaethau Gofal a Chymorth a gynigir, a drefnir, neu a ddarperir i berson yn rhan o becyn o wasanaethau ôl-ofal yn unol ag Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
- Darparu cludiant i wasanaeth dydd pan ddarperir y cludiant hwnnw er mwyn bodloni anghenion asesedig y person.
- I gynnal asesiad o anghenion, cynllunio gofal a chynlluniau gofal a Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer y swyddogaethau hyn.
- I gynnal asesiad ariannol, darparu datganiad tâl a chynnal adolygiad o benderfyniad ynghylch tâl, a Gwybodaeth a Chyngor ar gyfer y swyddogaethau hyn o dan y ddeddfwriaeth.
- Gwasanaeth Ailalluogi/Asesu Cymunedol i ddefnyddwyr gwasanaeth am hyd at 6 wythnos, (ee, Ailalluogi gartref, mewn cartref gofal, ac ati.) gyda darpariaeth ar gyfer cyfnodau estynedig lle bo'r asesiad o anghenion yn cefnogi estyniad.
- Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol lle bo awdurdod lleol wedi trefnu hyn yn unol â’r ddeddfwriaeth.
Ni fydd Sir Gaerfyrddin ychwaith yn codi tâl am:
- Offer/cymhorthion ar gyfer bywyd bob dydd
- Gwasanaethau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cynllun gofal a chymorth. Eithriadau yw pan fo gwasanaethau ar waith hyd nes y cwblheir y cynllun gofal a chymorth, lle bo anghenion gofal hirdymor wedi’u nodi ar ôl cyfnod asesu (Ailalluogi mewn cartref gofal, neu yn y gymuned, neu Wasanaeth Asesu Cymunedol fel arfer). Yn yr achosion hyn, codir tâl o'r dydd Llun ar ôl i anghenion gofal hirdymor gael eu nodi.
- Gwasanaethau heb eu cynllunio.
- Gwasanaethau Cyflogaeth a Hyfforddiant – mynd i ganolfan i dderbyn hyfforddiant cyflogaeth, a/neu ddatblygiad a chymorth personol er mwyn cael swydd.
- Cyflogaeth â Chymorth – darparu gofal a/neu gymorth i berson anabl mewn gweithle.
- Cymorth mewn lleoliad addysg - darparu gofal a/neu gefnogaeth i berson anabl tra bo mewn lleoliad addysg cydnabyddedig, ac wrth ddilyn cwrs addysg cydnabyddedig.
- Gwasanaethau a ddarperir gan wirfoddolwyr yn unig.
7. Gwasanaethau y Codir Tâl Amdanynt
Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am y gwasanaethau a ganlyn a drefnir neu a ddarperir ganddi:
- Gwasanaethau a ddarperir mewn Cartref Gofal - Unrhyw wasanaethau a ddarperir i breswylydd boed y lleoliad yn lleoliad parhaol neu dros dro, ee, Gofal Preswyl, Gofal Nyrsio, Gofal Tymor Byr, a Gofal Seibiant (ac eithrio ailalluogi preswyl am hyd at 6 wythnos)
- Gofal a Chymorth Cartref, gan gynnwys gofal ychwanegol – darparu gofal personol, gofal nad yw’n bersonol, a chymorth yn y cartref.
- Taliadau Uniongyrchol – taliad a wneir i berson i’w alluogi i brynu ei ofal ei hun.
- Gofal Dydd – yn cynnwys ystod o wasanaethau wrth ymweld â chanolfan neu unrhyw leoliad arall y tu allan i cartref y person ei hun.
- Byw â Chymorth – Gofal a chymorth i berson gan ofalwyr cyflogedig yng nghartref y person ei hun (ac eithrio Gofal Cartref).
- Cysylltu Bywydau – lle bydd oedolyn yn byw gyda gofalwr cymeradwy sy'n derbyn tâl i'w gefnogi.
- Gofal Amgen - lle bo gweithiwr gofal yn cymryd lle'r gofalwr anffurfiol dros dro i ddarparu gofal a/neu gymorth i berson yn ei gartref ei hun.
- Cymorth Cymunedol - gwasanaethau wedi'u cynllunio'n arbennig i unigolion (ac eithrio Gofal Cartref neu Ofal Dydd).
- Technoleg Gynorthwyol Arbenigol sy'n helpu pobl i fyw'n annibynnol.
8. Taliadau Cyfradd Safonol
Bydd Sir Gaerfyrddin hefyd yn codi tâl am y gwasanaethau canlynol sy'n cymryd lle costau byw dyddiol arferol, neu a fyddai'n cael eu hystyried yn wasanaethau ataliol. Codir am y gwasanaethau hyn drwy daliadau cyfradd safonol, ac ni fydd y taliadau'n destun asesiad ariannol.
- Prydau bwyd mewn sefydliad
- Gwasanaeth golchdy
- Dirprwyaeth
- Penodeiaeth i ddelio â budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau.
- Rheoli Diogelu Eiddo
Ni fydd asesiadau ariannol fel arfer yn cael eu cynnal ar gyfer y gwasanaethau uchod, ond lle bo gan y Cyngor reswm i dybio bod, neu y gallai effaith gronnus taliadau cyfradd safonol fod yn anfforddiadwy, bydd yn cynnig asesiad ariannol.
Ni chaiff y tâl am y gwasanaethau hyn ei gynnwys yn yr uchafswm tâl wythnosol (y cap) wrth bennu faint fydd rhywun yn talu am wasanaethau.