Rhoi gwybod am broblem gyda chysgodfan fysiau

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024

A fyddech cystal â rhoi gwybod inni os oes un o'r materion a ganlyn yn berthnasol yn achos eich cysgodfan fysiau:

  • Clawr yr amserlen ar goll
  • Paneli ar goll/wedi'u difrodi
  • Sedd wedi torri
  • Graffiti
  • Bwrdd amserlen electronig ddim yn gweithio

I roi gwybod am ddifrod yn ymwneud â chysgodfan fysiau, rhowch y wybodaeth ganlynol:

  • Cod ID y gysgodfan fysiau wedi'i arddangos ar glawr yr amserlen
  • Lleoliad y gysgodfan fysiau
  • Pa ochr i'r ffordd y mae'r gysgodfan fysiau neu gyfeiriad y bws wrth stopio
  • Llun o'r difrod neu fater - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho
  • Disgrifiad o'r difrod a pha baneli sydd wedi'u torri
  • Y rheswm dros y difrod os yw hyn yn hysbys

RHOI GWYBOD AM BROBLEM GYDA CHYSGODFAN FYSIAU

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.