Grant cychwyn busnes
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Y Cynnig
- 3. Cymhwysedd
- 4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 6. Offer ail-law
4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
Bydd y grant yn berthnasol ar gyfer gwariant cyfalaf a/neu wariant refeniw mewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:
Gwariant Cyfalaf:
- Prynu offer newydd neu ail law, e.e, peiriannau, offer arbenigol, ac ati. Sylwch y gallai rhain gynnwys eitemau megis tryciau fforch godi, telehandlers, cloddwyr, ac ati, er nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys. ** Gweler isod y nodyn ynglŷn a prynu eitemau ail law
- Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e. llochesi, gazebos, ac ati. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y. caniatâd cynllunio, trwyddedau, ac ati.
- Caledwedd TG a Thelathrebu os ydynt wedi eu cysylltu'n uniongyrchol â chyflawni'r prosiect
- Gosodion a ffitiadau, dodrefn ac offer swyddfa ac ati fel rhan o symudiad swyddfa neu swyddfa newydd
Gwariant refeniw arbenigol:
- Hyfforddiant arbenigol/technegol (nid yn achrededig o reidrwydd)
- Comisiynu/gosod peiriannau
- Meddalwedd arbenigol
- Ymgynghorwyr Arbenigol (wedi'u hasesu fesul achos)
- Ardystiad Sicrhau Ansawdd (wedi'i asesu fesul achos)
- Ffioedd sy'n gysylltiedig â chyflenwi/ darapru unrhyw gyfarpar cyfalaf