Llwybrau Celtaidd

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/12/2023

Fel rhan o'n strategaeth dwristiaeth i fanteisio i'r eithaf ar ddiwylliant a threftadaeth y Sir, rydym yn arwain partneriaeth ryngwladol gyffrous gyda Chynghorau Sir yng Ngheredigion, Wexford, Waterford a Wicklow yn ogystal â Pharc Cenedlaethol Sir Benfro.

O'r enw "Llwybrau Celtaidd", ein nod yw cynyddu:

  1. Nifer yr ymwelwyr
  2. Eu gwariant
  3. Hyd eu harhosiad a
  4. Eu hannog i ymweld ag ardaloedd nad yw pobl yn ymweld â nhw'n draddodiadol hytrach na'r cyrchfannau poblogaidd iawn.

Wedi'i hybu gan €3.1m o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae pob partner hefyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ariannu cyfres o weithgareddau marchnata sydd wedi'u datblygu'n llawn gan gynnwys hysbysebu ar y teledu, ymgyrchoedd Facebook ac Instagram, cysylltiadau cyhoeddus â chyhoeddiadau domestig a rhyngwladol, dylanwadwyr teithio a blogwyr, taflenni, partneriaethau gyda'r cyfryngau megis y Sunday Times. Mae cyfres gyfan o ddelweddau a fideos wedi'u brandio wedi cael eu creu sydd ar gael i bartneriaid masnach ehangach eu defnyddio

Disgwylir i ail gam gwerth £1.5 miliwn ddechrau ym mis Mai 2021. Os hoffech ymuno â grŵp ffocws Llwybrau Celtaidd Sir Gaerfyrddin, anfonwch neges e-bost at twristiaeth@sirgar.gov.uk