Ar hyn o bryd ni allwn dderbyn eitemau trydanol yn ein canolfannau ailgylchu gan gynnwys ein cyfleuster masnachol yn Nantycaws a chasgliadau gwastraff swmpus.
Mae hyn oherwydd tarfu dros dro ar y broses ailgylchu. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n partner gwastraff i ddatrys hyn ac rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Rydyn ni'n gobeithio derbyn eitemau trydanol unwaith eto yn ein canolfannau ailgylchu cyn gynted â phosibl.