Gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/10/2024
Gwybodaeth i drigolion
Mae gwefan Sgoriau Hylendid Bwyd yn rhestru'r holl fusnesau bwyd sydd wedi cael eu harolygu o dan y cynllun.
Mae'r cynllun yn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am y safonau hylendid mewn safleoedd bwyd ar yr adeg y cânt eu harolygu. Mae'r sgôr hylendid a roddir yn adlewyrchu'r hyn y mae'r swyddog diogelwch bwyd yn ei ganfod ar y pryd.
Nid yw'n hawdd barnu safonau hylendid yn ôl yr edrychiad yn unig ac felly mae'r sgôr yn rhoi syniad i chi o'r hyn sy'n digwydd yn y gegin, neu y tu ôl i ddrysau caeedig.
Rhoddir sticer sy'n dangos ei sgôr i bob busnes bwyd ac mae dyletswydd gyfreithiol ar y busnes i'w arddangos mewn man amlwg (fel y drws neu'r ffenestr ffrynt) ac wrth bob mynedfa i gwsmeriaid a rhoi gwybodaeth ar lafar am ei sgôr os gofynnir am hynny.
Mae'r sgoriau yn amrywio o 5 (da iawn) i lawr i 0 (mae angen gwelliant ar frys).
Graddio sgoriau hylendid bwyd
Gweithredir y cynllun yng Nghymru yn unol â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).