Newyddion a Digwyddiadau

Diwrnod Mawr Allan!


Helo, f’enw i ydy Jenna, a dwi’n Gynorthwyydd Archifau yma yn Archifau Sir Gaerfyrddin. Ddydd Sadwrn 11 Tachwedd, cynrychiolais y gwasanaeth archifau yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Hynafiaethwyr Caerfyrddin. Gyda nwyddau am ddim yn un llaw a dogfennau yn y llall, gosodais fy stondin i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr sydd i ddod!

O amgylch campau Griffith Jones, gweinidog Cymreig ar ddechrau'r 18fed ganrif, roedd y diwrnod yn cynnwys darlithoedd, ac wrth gwrs, egwyliau te a choffi helaeth. Gyda siaradwyr nodedig yn cynnwys; Dylan Rees, y Proffeswr Densil Morgan, Dr Eryn White, a Dr Mary Thorley, cludwyd ni i amser lle yr oedd addysg i'r boneddigion o'r radd uchaf yn unig, ond trwy ddarlithiau y dydd fe'n hatgoffwyd o gampau Madam Bevan, addysgwr brwd, ac wrth gwrs, Griffith Jones, y pensaer y tu ôl i Ysgolion Cylchynol Cymru.

Fel cynrychiolydd yr Archif, roeddwn yn gallu arddangos rhai o ddaliadau’r Archifau a rhyngweithio â’r mynychwyr, nad oedd rhai ohonynt erioed wedi ymweld â ni/yn gwybod ychydig iawn o’r hyn oeddem. Roedd yn brofiad hynod werth chweil gallu tanio brwdfrydedd yr unigolion hyn sydd eisoes ag angerdd am hanes, a gobeithio y bydd llawer yn awr yn defnyddio ein cyfleusterau newydd.

Gyda hyn, edrychaf ymlaen at gymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol, yn ogystal ag ymgysylltu â’r gymuned ehangach wrth greu Archif sy’n gynhwysol i bawb.


Ffotograff gan Heather James (11/11/2023).

  • Lleoliad: