Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Pharcio
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/10/2024
Mae gan Swyddogion Gorfodi Sifil (CEOs) waith anodd ond pwysig o ran sicrhau bod y briffordd yn glir ac yn ddiogel i bob defnyddiwr. Er ein bod yn deall nad oes ar neb eisiau ‘tocyn parcio’ mae’n bwysig bod y staff hyn yn cael eu trin â chwrteisi a pharch. Mae’n bosibl yr adroddir am unrhyw un sy'n dangos ymddygiad ymosodol tuag at swyddogion gorfodi sifil wrth yr heddlu.
Sylwch, unwaith y bydd yr HTC wedi'i roi, na all y Swyddog dynnu'r HTC yn ôl. Peidiwch â chwilio am y Swyddog a allai fod wedi rhoi'r HTC i chi.
Os ydych wedi derbyn dirwy mae yna broses apelio ac os oes gennych adborth ar ymddygiad Swyddog Gorfodi Sifil rhowch wybod i ni drwy e-bostio parking@sirgar.gov.uk
Gweler isod ein cwestiynau mwyaf cyffredin yn ymwneud â Pharcio ar draws Sir Gaerfyrddin, os nad yw eich ymholiad yn cael ei ateb yma e-bostiwch parcio@sirgar.gov.uk
Yn anffodus, ni allwn ganiatáu aros dros nos mewn cerbydau yn ein meysydd parcio. Ni chaniateir i chi aros yn y cerbyd dros nos.
Gwaherddir yn gaeth gysgu dros nos mewn lorïau, bysiau, ceir a charafanau hefyd.
Byddem yn argymell i berchnogion cartrefi modur sy'n dymuno aros dros nos, gysylltu â meysydd carafanau yn y sir.
Mae mannau parcio unigol ar gyfer beiciau modur ar gael (am ddim) yn y meysydd parcio canlynol:
- Heol Ioan, Caerfyrddin
- Parc y Brodyr Llwyd, Caerfyrddin
- San Pedr, Caerfyrddin
Edrychwch ar y meysydd parcio hyn ar ein map rhyngweithiol.
Cewch hefyd barcio beic modur mewn man parcio car, ond os gwnewch hynny, peidiwch ag anghofio talu am docyn a'i arddangos yn glir.
Ni chaniateir i feiciau modur barcio mewn mannau heblaw rhai dynodedig, yn enwedig mewn mannau â llinell.
Mae'n rhaid i chi dalu'r swm sy'n berthnasol i'r man lle rydych wedi parcio. Ni ddylech barcio mewn man arhosiad byr os ydych wedi prynu tocyn arhosiad hir. Os yw’r mannau arhosiad hir yn llawn, caiff gyrwyr aros mewn mannau arhosiad byr am uchafswm o 4 awr neu barcio mewn maes parcio arall.
Gwelwch y daflen wybodaeth, sy'n cael ei harddangos ar yr holl hysbysfyrddau sydd wedi cael eu gosod ym mhob maes parcio ac sy'n dangos y prisiau/mannau parcio gwahanol.
Anfonwch e-bost i parcio@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567.
Anfonwch e-bost i parcio@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 228390
Os nad oes cyfyngiadau (e.e. llinellau melyn dwbl, parcio i ddeiliaid hawlenni, ac yn y blaen.) ac os yw’r cerbyd yn achosi rhwystr, bydd angen i chi gysylltu â’r heddlu ar 101.
Bydd angen i chi barcio yn y man arhosiad hir penodol a dewis y ffi briodol. Er enghraifft, pe bai arnoch angen aros am 48 awr, byddai angen i chi ddewis arhosiad hir ar y peiriant tocynnau a + i £5.00 gan fod 1 diwrnod llawn yn £2.50.
Fel arall, gallwch lawrlwytho Ap MiPermit a thalu o'ch ffôn.
Rhowch wybod am unrhyw broblemau i parkingservices@sirgar.gov.uk neu 01267 234567.
Ni fydd yr oriau sy'n berthnasol i unrhyw docynnau a brynir ar y tariff dyddiol ar ôl 6 p.m. yn dod i rym nes bydd y taliadau dyddiol yn ailddechrau. Felly byddai tocyn dwy awr a brynir ar ôl 6pm yn caniatáu dwy awr o barcio o ddechrau’r tâl dyddiol naill ai am 8 a.m. neu 10 a.m.
Fel arall, gallwch lawrlwytho Ap MiPermit a thalu o'ch ffôn.
Os byddwch yn talu am barcio cyn 6 p.m, sy'n dod i ben ar ôl 6 p.m, ystyrir eich bod wedi talu am barcio dros nos hefyd.
Nac ydy, rhaid i chi arddangos tocyn dilys. Fodd bynnag, os bydd wedi ei arddangos gyda’r bathodyn glas bydd gennych hawl i awr ychwanegol am ddim. Er enghraifft, os gwnaethoch brynu tocyn 2 awr, bydd gennych hawl i 3 awr.
Rhaid i chi brynu tocyn er mwyn i’r 1 awr ychwanegol gael ei chaniatáu. Os mai dim ond am un awr yr ydych yn tueddu i barcio, bydd angen i chi brynu tocyn. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei harddangos yn glir ar yr hysbysfwrdd sydd wedi ei osod ym mhob maes parcio.
Gellwch. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig ‘Tocyn Tymor’ 3, 6 neu 12 mis y gellir ei brynu drwy ffonio 01267 234567. Gellir dod o hyd i'r prisiau yma. Yn anffodus, ni allwn gynnig taliad misol am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.
Rheolir y meysydd parcio canlynol gan Barc Arfordirol y Mileniwm:
- Bynea
- Cefneithin
- Coetir y Mynydd Mawr
- Doc y Gogledd
- Harbwr Porth Tywyn
- Heol y Gors
- Llyn Llech Owain
- Meysydd Gŵyl
- Parc Dŵr y Sandy
- Parc Gwledig Pen-bre
- Pentywyn
- Porth Tywyn
- Y Tymbl
Am wybodaeth lawn ewch i'n tudalen we - Parcio a Hawlenni Parcio Blynyddol – Parc Gwledig a Thraeth Pen-bre
Cysylltwch â Pharc Arfordirol y Mileniwm ar gyfer pob ymholiad ynghylch y Parc Arfordirol ar 01554 742435.
Ar gyfer pob maes parcio arall, os bydd tocyn tymor yn cael ei brynu ac yn cael ei golli neu'n cael ei ddifrodi oherwydd camddefnydd gan ddeiliad y cerdyn, bydd angen ffi o £1.50 am un yn ei le. Bydd angen i chi ffonio 01267 234567 i dalu a threfnu trwydded newydd.
Priffyrdd, Teithio a Pharcio
Mynediad ar gyfer cerdded a beicio (Teithio Llesol)
Tywydd Garw
Cynllun Gwasanaeth dros y Gaeaf a Thywydd Garw Priffyrdd
Ymgeisio am...
Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd
Gwasanaethau bws
Bws Bach y Wlad
Rhannu ceir
Tocyn teithio consesiwn
Ceir Cefn Gwlad
Seilwaith Cerbydau Trydan
Graeanu
Mwy ynghylch Priffyrdd, Teithio a Pharcio