Parcio am ddim yng nghanol trefi
Fel un o'r cynlluniau i roi hwb i werthiant yn y sectorau masnach, lletygarwch a busnes yn Nhrefi Sir Gaerfyrddin, byddwn yn hepgor ffioedd yn ein meysydd parcio fel rhan o ddigwyddiad neu ymgyrch ehangach a drefnir, a hynny ar bum achlysur ar wahân fesul tref yn ystod y flwyddyn.*
Gyda dros 15,000 o lefydd gwag yn cael eu cynnig y flwyddyn, mae'r fenter hon wedi bod yn ysgogiad ychwanegol enfawr i gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol y trefi a gellir ei hategu drwy brosiectau eraill gan gynnwys y Cylch Trefnwyr Digwyddiadau a cyllid ar gyfer trefnwyr digwyddiadau.
Gellir cynnal yr ymgyrch Parcio am Ddim hon yn y mannau canlynol:
- Rhydaman: Stryd Marged/Stryd Lloyd, Carregaman, Stryd y Gwynt, Stryd y Neuadd
- Caerfyrddin: San Pedr, Heol Ioan, y Cei, Heol Awst, Parc y Brodyr Llwyd, Heol Las, Stryd y Prior, Neuadd y Sir, 3 Heol Spilman, Parc Myrddin, Heol yr Orsaf, Maes Parcio i Fysiau/Coetis Heol yr Orsaf.
- Llandeilo: Heol Cilgant
- Llanymddyfri: Y Castell
- Llanelli: Maes Parcio Aml-lawr Stryd Murray, Stryd yr Eglwys, Stryd Thomas/Edgar, Heol Vauxhall, Porth y Dwyrain
- Castellnewydd Emlyn: Mart Cawdor, y Castell
- Sanclêr Heol y Pentre
Mae'r trefniadau dewisol yn berthnasol i'r amodau canlynol:
- Rhaid iddynt gefnogi'r dref gyfan ac nid ydynt yn benodol ar gyfer un manwerthwr neu grŵp dethol o fanwerthwyr
- Rhaid trefnu digwyddiadau trwy grŵp rheoli canol tref lle mae'r Cyngor yn cael ei gynrychioli neu sefydliad tebyg
- Ni chaiff cyfanswm diwrnodau'r digwyddiad fod yn fwy na phump mewn un flwyddyn, a hynny o Ebrill i Fawrth
- Rhaid cytuno ar y digwyddiad o leiaf un mis ymlaen llaw
- Er bydd y disgresiwn yn berthnasol i feysydd parcio'r cyngor yn unig, rhaid i drefnwyr y digwyddiad dystio bod unrhyw faes parcio preifat yn y dref wedi cael cyfle i gynnig yr un buddsoddiad â'r Cyngor Sir.
- Rhaid i'r holl ddigwyddiadau gael eu hyrwyddo mewn partneriaeth ag adain Marchnata a'r Cyfryngau y Cyngor Sir.
- Rhaid cydnabod ein cefnogaeth yn yr holl waith marchnata gan gynnwys cysylltiadau cyhoeddus a thagiau i'n cyfrifon Facebook a Twitter.
- *Nid yw'n cynnwys mis Rhagfyr
Mwy ynghylch Cyllid