Cronfa Seilwaith Llifogydd Sir Gaerfyrddin i Fusnesau

Diweddarwyd y dudalen ar: 09/01/2024

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi darparu arian i gefnogi prosiectau strategol ar gyfer busnesau y mae llifogydd afonol wedi effeithio arnynt.
Mae gan y rhaglen gyllideb benodedig ac, o ganlyniad, mae’r cynllun yn seiliedig ar egwyddor “her”. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau a fydd yn cynnig manteision pendant i'r economi leol o ran swyddi a ddiogelir. Bydd y cynllun hwn yn dod o dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022) presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

Ardaloedd Cymwys/Ceisiadau

Bydd prosiectau cymwys wedi'u lleoli mewn ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi wynebu nifer o lifogydd afonol sylweddol.
Mae'n rhaid i'r holl ymgeiswyr fod yn hyfyw yn economaidd ac yn ariannol.
Bydd angen caniatâd tirfeddianwyr a thrwyddedau perthnasol yn achos grantiau ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd/amddiffyn rhag llifogydd.

 

Gwaith Anghymwys

  • Gwaith sydd eisoes wedi dechrau
  • Ymyriadau dros dro
  • Atgyweiriadau a chynnal a chadw

 

Llinell Amser:

Mae’r grant bellach wedi agor, nid oes dyddiad cau ond cyntaf ir felin yw hi.

 

Lefelau'r Grant

Bydd y grant yn seiliedig ar uchafswm o draean o gyfanswm costau'r prosiect.
Gellir ceisio arian cyhoeddus arall ar gyfer y prosiect, ond bydd disgwyl i ymgeiswyr gyfrannu o leiaf 25% o gyfanswm y prosiect o'u cyllid eu hunain.
Uchafswm y grant yw £50,000.

 

Proses Gwneud Cais

  • Bydd y weithdrefn yn cynnwys un broses gwneud cais.
  • Mi fydd swyddog\Cydlunydd yn asesu’r prosiect, yn ogystal a rhelowr llifogydd o’r awdurdod, ac mi fydd papur panel yn cael ei gyflwyno.
  • Yna bydd y panel grantiau ac Aelod Cabinet y Cyngor yn asesu ac yn ystyried y ceisiadau unigol.
  • Bydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniad. Ni fydd unrhyw apeliadau'n cael eu hystyried.

 

Os hoffech gopi o’r ffurflen gais danfonwch e-bost at Economicdevelopment@sirgar.co.uk

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y canllawiau cyn mynd ati i lenwi’r ffurflen gais ac ar gyfer unrhyw wybodaeth pellach.

 

canllawiau

Cyllid