Cronfa Benthyciadau Canol Trefi

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/04/2024

Fel rhan o'n hymrwymiad i alluogi a chefnogi adfywio ac arallgyfeirio canol trefi yn ein Sir, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau cynllun cyllid ad-daladwy ychwanegol drwy Gronfa Benthyciadau Canol Tref Llywodraeth Cymru gyda'r nod o ddod ag eiddo adfeiliedig neu danddefnydd gwag a safleoedd datblygu segur yng nghanol trefi cynradd Sir Gaerfyrddin yn ôl i ddefnydd economaidd.

Amcan y cynllun Benthyciadau Canol Tref yw cymell a galluogi adnewyddu eiddo ac adeiladu o'r newydd yng nghanol trefi ar draws Sir Gar drwy gynnig benthyciadau di-log i berchnogion eiddo, datblygwyr, buddsoddwyr ac ati, a fydd yn eu tro yn annog ailddefnyddio safleoedd ac adeiladau gwag, heb eu defnyddio a rhai segur yn gynaliadwy. Bydd yr ymyriad hwn yn arwain at greu gofod llawr canol tref at ddefnydd masnachol, hamdden a phreswyl.

Bydd y safle sydd wedi'i gwblhau yn cyfrannu at Ganol Trefi newydd, bywiog ac amrywiol, gan arwain at fwy o ymwelwyr a hyder, gan sicrhau dyfodol cynaliadwy a disglair.

Beth sydd ar gael?

Benthyciadau di-log rhwng £25,000 a £1Miliwn 

Ni all y benthyciad ond cefnogi uchafswm o 75% o'r benthyciad i werth cost y prosiect.

Codir ffi weinyddol am fenthyciadau unigol i dalu costau sy'n gysylltiedig â phrosesu a rheoli'r benthyciad ac i adlewyrchu lefel y risg. Ni fydd y ffi, a bennir gan y Panel Benthyciadau, yn fwy na 15% o swm y benthyciad ond mae'n debygol o fod yn llawer llai.

Gellir naill ai talu'r costau terfynol sy'n gysylltiedig â'r ffi weinyddol i Gyngor Sir Caerfyrddin yn llawn cyn i'r benthyciad gael ei dynnu i lawr neu ei dalu fesul cam i gyfateb i delerau ad-dalu'r benthyciad.

Bydd uchafswm tymor benthyciad am 5 mlynedd.

Mae dewis o delerau ad-dalu:

  • Ad-daliad llawn ar ddiwedd tymor y benthyciad
  • Ad-dalu 50% o'r swm ym Mlwyddyn 4 gyda'r 50% sy'n weddill Blwyddyn 5
  • Ar ôl gwerthu'r eiddo neu o fewn 5 mlynedd i ddyddiad talu'r benthyciad, pa un bynnag sydd gynharaf

Pwy all wneud cais?

Cyfyngir cymhwysedd i berchnogion neu ddarpar berchnogion eiddo er mwyn lleihau nifer y safleoedd gwag, adfeiliedig neu heb eu defnyddio'n ddigonol a safleoedd datblygu segur o fewn trefi Sir Gar

Gall perchnogion gynnwys:

  • Busnesau (unig fasnachwyr/partneriaethau/cwmnïau)
  • Datblygwyr
  • Landlordiaid
  • Mentrau cymdeithasol
  • Tenantiaid
  • Cymdeithasau tai
  • Preswylwyr preifat

Gweler y ddogfen ganllaw isod am ragor o wybodaeth

Dogfen ganllaw

Gwiriwch gymhwysedd eiddo i mean:

Caerfyrddin

Llanelli

Rhydaman

Porth Tywyn

Cross Hands

Cwmaman

Cydweli

Talacharn

Llandeilo

Llanymddyfri

Llanybyther

Castell Newydd Emlyn

Sancler

Hendy-Gwyn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y ddogfen ganllaw.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ariannu neu i fynegi eich diddordeb, e-bostiwch

BenthyciadCanolTref@Sirgar.gov.uk

Cyllid