Recriwtio aelodau ar gyfer y paneli Apêl Addysg
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/05/2026
Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddyletswydd i hysbysebu a phenodi aelodau o'r Paneli Apêl Addysg. Mae'r paneli hyn yn gwrando ar apeliadau ynghylch derbyn disgyblion i ysgolion ac apeliadau ynghylch gwaharddiadau parhaol o ysgolion yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Felly bydd angen i aelodau'r panel allu dehongli rheoliadau cyfreithiol cymhleth.
Gwahoddir ceisiadau am:
- Aelodau Lleyg
Ystyr person lleyg yw rhywun sydd heb brofiad personol o reoli neu ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (ac eithrio fel gwirfoddolwr neu lywodraethwr ysgol), nad yw'n aelod nac yn un o weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin (heblaw am fel athro/athrawes), ac nad oes unrhyw gysylltiad, a fyddai'n debygol o godi amheuon am allu'r person i fod yn ddiduedd mewn perthynas â'r Cyngor, wedi bod ganddo/ganddi ar unrhyw adeg â'r Cyngor nac unrhyw un o weithwyr y Cyngor. - Aelodau sydd â phrofiad mewn Addysg
Dyma bobl sydd â phrofiad personol (o'r gorffennol neu ar hyn o bryd) o reoli neu ddarparu addysg mewn ysgol megis penaethiaid neu athrawon.
Cadeirio’r Panel
Mae diddordeb arbennig gennym mewn pobl sydd â phrofiad o fod yn Gadeirydd neu a fyddai'n barod i fod yn Gadeirydd ar Banel Apêl gyda'r hyfforddiant perthnasol.
Mae cyfarfodydd y paneli apêl yn cael eu cynnal rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond mae'n rhaid i'r aelodau fod yn barod i wasanaethu hyd nes bod apêl yn dod i ben. Fel arfer trefnir Gwrandawiadau Apêl yn rhithwir trwy gyswllt fideo-gynadledda, oni bai bod yr apelydd yn gwneud cais i'r gwrandawiad gael ei gynnal yn bersonol (yng Nghaerfyrddin neu Lanelli fel arfer). Mae'r rheoliadau hefyd yn caniatáu i ddogfennau sy'n ymwneud ag Apeliadau gael eu hanfon yn electronig, felly mae angen dealltwriaeth dda o TG a llwyfannau cyfarfod rhithwir ar gyfer y rôl hon.
Caiff aelodau'r panel eu talu ac hefyd ad-delir treuliau teithio a chynhaliaeth iddynt, yn unol â rheoliadau'r Cyngor. Darperir hyfforddiant i'r rhai a ddewisir cyn iddynt eistedd ar unrhyw banel
Os oes diddordeb gennych, gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bost atCraffu@sirgar.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 4pm ddydd Gwener 5ed o Fehefin 2026.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mr Gawain Williams GWilliams@sirgar.gov.uk
