Y Pwyllgor Safonau – Penodi Aelod Annibynnol
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/05/2026
Mae'r Cyngor Sir yn dymuno penodi aelod o'r cyhoedd yn aelod annibynnol o'i Bwyllgor Safonau.
Mae gan y Pwyllgor Safonau gyfrifoldeb cyffredinol am hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan aelodau'r Cyngor Sir ac aelodau cynghorau cymuned a chynghorau tref yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r aelodau hynny i gydymffurfio â'u côd ymddygiad. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys 3 chynghorydd sir, un aelod cymunedol a phum aelod annibynnol.
Nid yw'r term 'aelod annibynnol' yn dynodi aelodaeth o unrhyw blaid wleidyddol, yn syml golyga bod yr un dan sylw'n annibynnol ar y Cyngor. Mae rheolau ar wahân gan Lywodraeth Cymru sy'n rheoli'r modd y gall swyddogion neu aelodau presennol neu flaenorol y Cyngor a chyrff tebyg yn y sector cyhoeddus ddal y swyddogaeth hon. Ceir rhagor o fanylion yn y pecyn cais, sydd hefyd yn cynnwys proffil swydd a manyleb swydd.
Yn ogystal, ni all y Cyngor ystyried ceisiadau gan bobl sydd â pherthynas fusnes sylweddol â'r Cyngor.
Telir lwfans o £26.25 yr awr, £105 hanner diwrnod a £210 diwrnod llawn (yn dibynnu ar hyd y cyfarfod) ar gyfer y swydd hon a thelir rhai treuliau yn ogystal. Bydd pob cais yn cael ei farnu'n ôl ei deilyngdod. Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan bawb yn ddiwahân.
Mae hwn yn benodiad am 6 blynedd neu lai.
Dyddiad cau: 4 o’r gloch dydd Gwener 5ed o Fehefin 2026
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Robert Edgecombe, Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol:-
Rhif Ffôn: 01267 224018
E-bost: RJEdgeco@sirgar.gov.uk
I gael ffurflen gais ebostiwch craffu@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 224028
