Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Buddsoddi yn nyfodol eich cartref i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023

SATC 2023 yw'r safon a osodir gan Lywodraeth Cymru y mae'n rhaid i bob cartref sy'n eiddo i'r Cyngor a Chymdeithasau Tai yng Nghymru ei chyflawni. Mae'n canolbwyntio ar gynnal ansawdd a chyflwr cartrefi. 

Ers cyflawni'r SATC gwreiddiol yn 2015, rydym bellach yn ymdrechu i fodloni'r safon newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023. Mae'r safon wedi'i diweddaru hon yn adeiladu ar ein cyflawniadau yn y gorffennol a bydd yn llywio ein buddsoddiad parhaus i wneud yn siŵr bod eich cartref yn gyfforddus, yn effeithlon o ran ynni ac yn fforddiadwy i'w wresogi. 

Mae'r safon yn ei gwneud yn ofynnol i bob cartref cymdeithasol yng Nghymru:
 
Fod mewn cyflwr da 
Bod yn ddiogel
Bod yn fforddiadwy i'w wresogi a chael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd
Bod â chegin ac ardal gyfleustodau gyfoes
Bod yn gyfforddus a hyrwyddo llesiant
Bod â gardd addas/llecyn allanol deniadol

Cyflawni SATC 2023 Gyda'n Gilydd

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni SATC 2023 gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i chi.

Yn yr Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR diwethaf, gwnaethoch chi ddweud wrthym fod atgyweiriadau a chynnal a chadw yn brif flaenoriaethau. Dyna pam, wrth i ni weithio tuag at gyflawni SATC 2023, rydym am ganolbwyntio ar atal problemau cyn iddynt ddigwydd. Drwy fynd ati i fuddsoddi yn eich cartrefi nawr, rydym yn anelu at leihau'r angen am atgyweiriadau yn y dyfodol, a ddylai dros amser leihau nifer yr atgyweiriadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt.

Fodd bynnag, mae SATC 2023 yn fwy na dim ond atgyweiriadau. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr bod eich cartref yn aros yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn falch bod cynifer o denantiaid eisoes yn teimlo'n fodlon â diogelwch ac ansawdd eu cartrefi. Bydd cyflawni SATC 2023 yn ein helpu i adeiladu ar hyn, gwella ein gwasanaethau a darparu cartrefi y mae pobl yn teimlo'n ddiogel ynddynt, ac yn falch o fyw ynddynt.

Lle y gallwn, byddwn yn alinio ein rhaglenni buddsoddi â'n rhaglenni gwaith wedi'i gynllunio. Yn y modd hwnnw, gallwn helpu i osgoi unrhyw aflonyddwch diangen i chi.

Safon ansawdd tai Cymru