Cynllun Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol:

Bob blwyddyn rydym yn cynnig cyfle i grwpiau cymunedol wneud cais am swm bach o arian i gynorthwyo gyda chynyddu a hyrwyddo cydlyniant.

Cydlyniant cymunedol yw'r broses sy'n gorfod digwydd i sicrhau bod gwahanol grwpiau o bobl yn cyd-dynnu'n dda yn yr ardal. Cymuned gydlynus yw ardal lle mae pobl o wahanol gefndiroedd yn rhannu perthnasoedd cadarnhaol, yn teimlo'n ddiogel yn y gymdogaeth, ac yn parchu ei gilydd a rhannu'r un gwerthoedd.

Rhaid i gynigion am grant gyd-fynd ag un neu ddau o amcanion y cynllun grantiau bach neu ni fyddant yn gymwys:

  • Darparu gweithgareddau sy'n cefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig i fynd i'r afael â thensiynau cymunedol a meithrin cydlyniant cymunedol. Mae hyn yn cynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr; Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches; a chamau i fynd i'r afael â Gwrthsemitiaeth ac Islamoffobia.
  • Darparu digwyddiadau a gweithgareddau sy'n dod â phobl o wahanol gymunedau at ei gilydd yn benodol i feithrin ymdeimlad ehangach o gymuned a pherthyn. Dylai cynigion ystyried sut mae gweithgareddau'n cefnogi integreiddio, mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, nodi pethau sy'n gyffredin drwy brofiadau a diddordebau a rennir, a dathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal.

Rydym yn annog ceisiadau i gynnal gweithgareddau i ddod â chymunedau at ei gilydd na fyddant fel arall byth yn dod i gyfarfod ar-lein neu yn bersonol – er enghraifft newydd-ddyfodiaid i gymdogaethau sy'n dod i adnabod pobl sydd wedi byw yn yr ardal ers amser maith, gan gefeillio prosiectau â chymunedau eraill mewn gwahanol rannau o Gymru lle mae gan ardaloedd broffil amrywiaeth gwahanol, neu waith sy'n pontio'r cenedlaethau. Yn aml gellir gwneud hyn drwy drefnu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol neu chwaraeon. Ond mae'n rhaid i'r gweithgareddau hyn hefyd gynnwys rhywfaint o 'weithgarwch ystyrlon' ychwanegol megis sgyrsiau, rhannu profiadau bywyd, dod i adnabod ei gilydd, neu ddarganfod beth sydd ganddynt yn gyffredin.

Gallai prosiectau hefyd godi ymwybyddiaeth o ymgyrchoedd neu ddigwyddiadau megis: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb; Wythnos Rhyng-ffydd; Diwrnod Cofio'r Holocost; Diwrnod Rhyngwladol Anableddau; Mis Hanes Pobl Dduon ac ati.

Cysylltwch â ni: COMCommunityCohesion@sirgar.gov.uk