Tŷ Teras dwy ystafell wely ar werth yn Heol y Gigfran, Cefneithin
12 Heol y Gigfran, Cefneithin, Sir Gaerfyrddin, SA14 7GA

£77,994.00

Manylion Allweddol

Mae gan y tŷ teras hwn â dwy ystafell wely ffenestri UPVC a system gwres drydanol. Mae'r tŷ ar gyrion Cross Hands, lle mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael gerllaw gan gynnwys siopau manwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa. Mae gan y tŷ gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer dau gerbyd, gardd gefn a llecyn graean o flaen y tŷ.

Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 15 Rhagfyr 2022.

I gael rhagor o fanylion ynghylch y tŷ hwn neu i drefnu apwyntiad i weld y tŷ, cysylltwch â'r perchennog, sef Miss Yarnold, drwy ffonio 07510378564 neu anfon neges e-bost at stacey1_2@hotmail.com. Gellir gweld y tŷ drwy apwyntiad yn unig.

Gwneud cais am yr eiddo hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.