Mae tŷ canol teras tair ystafell wely yng Ngharwe, Cydweli ar werth
20 Heol Waunhir, Carwe, Cydweli, Sir Gaerfyrddin, SA17 4GH

£92,637.00

Manylion Allweddol

Mae'r Cartref Fforddiadwy hwn yn dŷ canol teras 3 ystafell wely ar ddatblygiad yn Ffos Las, ac mae ar gael i ymgeiswyr cymwys. Mae'r datblygiad yn agos i Dref Llanelli a Thref Caerfyrddin lle mae'r cyfleusterau canlynol ar gael sy'n cynnwys banciau, Swyddfa'r Post, siopau manwerthu, canolfan hamdden, sinema, gorsaf drenau ac ysgolion. Mae'r eiddo hwn yn agos at Gae Rasio Ffos Las lle mae rasys ceffylau yn cael eu cynnal ynghyd â llawer o ddigwyddiadau cyffrous eraill. Mae'r cartref hwn wedi'i amgylchynu gan gefn gwlad prydferth Cymru yn barod i chi ei grwydro. Mae gan y tŷ gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Caerfyrddin ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae hwn yn dŷ perffaith i rywun sy'n dymuno bod yn berchen ar gartref fforddiadwy/prynwr tro cyntaf. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer dau gerbyd yn ogystal â gardd gefn. Mae gan y brif ystafell wely ensuite.

Mae perchnogion y cartref wedi dweud y bydd y carpedi, y bleindiau a'r wardrob sydd wedi'i gosod yn cael eu cynnwys yn y gwerthiant.

Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 23 Awst 2021.

Y pris fforddiadwy ar gyfer yr eiddo hwn yw £92,637, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £135,000 felly byddech yn prynu 68.62% o'r eiddo hwn.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.

  • Y Llawr Gwaelod: Cyntedd, cegin/ystafell fwyta, toiled ac ystafell fyw
  • Y Llawr Cyntaf: Un ystafell wely ddwbl gydag ensuite, dwy ystafell wely sengl ac ystafell ymolchi
  • Allanol: Dau le parcio preifat dynodedig a gardd gefn amgaeedig

Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni y cartref hwn ar gael.

Rhowch gynnig am y tŷ hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.