Mae tŷ pen teras dwy ystafell wely yng Nghydweli ar werth.
25 Parc y Garreg, Mynyddygarreg, Cydweli, Sir Gaerfyrddin, SA17 4PU

£92,125.00

Manylion Allweddol

Mae'r eiddo wedi'i leoli ar ddatblygiad modern yng Nghydweli. Mae'n dŷ pen teras dwy ystafell wely sydd wedi'i gyflwyno'n dda sy'n elwa o Wres Canolog Nwy a ffenestri gwydr dwbl uPVC. Byddwch yn agos at amwynderau sy'n cynnwys sefydliadau bwyd, ychydig o siopau ac ysgolion. Bydd gennych gysylltiadau ffordd da i'r A484 i Lanelli a Chaerfyrddin. Mae gan yr eiddo fan parcio ar wahân ar gyfer 2 gar a gardd amgaeedig yn y cefn.

Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 19 Rhagfyr 2022.

I gael rhagor o fanylion am y tŷ hwn, cysylltwch â Mrs Evans drwy ffonio 07769 224119 neu drwy e-bost stephevs1@gmail.com.

Cyflwyno cynnig am yr eiddo hwn

 

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.