Ar Werth - Tŷ pen y teras â 2 ystafell wely ym Cydweli.
28 Parc Y Garreg, Cydweli, Sir Gaerfyrddin, SA17 4PU

£92,160

Manylion Allweddol

Mae'r eiddo ar ddatblygiad modern yng Nghydweli. Mae mewn cyflwr da, yng pen teras ac yn elwa ar System Gwres Canolog Nwy a ffenestri gwydr dwbl uPVC. Byddwch yn agos at amwynderau sy'n cynnwys sefydliadau bwyd, ychydig o siopau ac ysgolion. Bydd gennych gysylltiadau ffordd da i'r A484 i Lanelli a Chaerfyrddin. Mae gan yr eiddo lecyn parcio ar wahân ar gyfer 2 gar a gardd gefn gaeedig. ​

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 22 Mehefin 2021.

Y pris fforddiadwy yw £92,160, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £128,000 felly byddech yn talu 72% o'r ecwiti.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.

  • Y Llawr Gwaelod: Cyntedd, cegin ac ystafell fyw
  • Y Llawr Cyntaf: Un ystafell wely ddwbl, un ystafell wely sengl ac ystafell ymolchi
  • Allanol: Gardd gefn gaeedig a Maes parcio ar wahân ar gyfer dau gar.
  • Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy
  • Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer y tŷ hwn ar gael

I drefnu gweld yr eiddo a gofyn am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mr Thomas drwy Scottiethomas10@hotmail.co.uk neu ffoniwch ar 07817357463.

Rhowch gynnig am y tŷ hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.