Mae tŷ pâr tair ystafell wely yng Ngharwe, Cydweli ar werth
38 Heol y Plas, Carwe, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA17 4JG

£97,913.80

Manylion Allweddol

Mae'r tŷ fforddiadwy hwn yn dŷ pâr tair ystafell wely a leolir yng Ngharwe, sydd ar gael i ymgeiswyr cymwys. Mae'r tŷ yn agos i Dref Llanelli a Thref Caerfyrddin lle mae'r cyfleusterau canlynol ar gael sy'n cynnwys banciau, Swyddfa'r Post, siopau manwerthu, canolfan hamdden, sinema, gorsaf drenau ac ysgolion. Mae'r cartref hwn wedi'i amgylchynu gan gefn gwlad prydferth Cymru yn barod i chi ei grwydro. Mae gan yr eiddo gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Caerfyrddin ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae hwn yn dŷ perffaith i rywun sy'n dymuno bod yn berchen ar gartref fforddiadwy/prynwr tro cyntaf. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer dau gerbyd yn ogystal â gardd gefn.

Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 2 Chwefror 2022.

I drefnu i weld y tŷ a gofyn am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Vicky drwy anfon e-bost at vmincher@live.co.uk neu drwy ffonio 07960 176143.

Gwneud cais am yr eiddo hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.