Tŷ diwedd teras dwy ystafell wely ar werth yn yr Hendy
38 Llwyngwern, yr Hendy, Abertawe. SA4 0AA

£79,530

Manylion Allweddol

Tŷ diwedd teras dwy ystafell wely yn yr Hendy yw'r tŷ fforddiadwy hwn. Mae gan yr eiddo gysylltiadau ffordd gwych ac mae Pontarddulais, Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin i gyd o fewn pellter teithio hawdd. Mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael yn cynnwys siopau manwerthu, sinema, canolfannau deintyddol a meddygol, sefydliadau bwyd a champfa sy'n gwneud hwn yn lleoliad delfrydol. Deiliadaeth lesddaliad sydd i'r eiddo, mae'n cael ei gadw ar brydles 999 mlynedd gyda rhent tir o £114.99 y flwyddyn.

Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn o 1 Tachwedd ymlaen.

I drefnu cael golwg ar yr eiddo a gofyn am ragor o wybodaeth am yr eiddo, cysylltwch â Mrs Singer drwy e-bostio kellysinger65@gmail.com neu ffonio 07792 968 994.

Gwneud cais am yr eiddo hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.