Tŷ pen teras â 3 ystafell wely ar werth yn Llangynnwr
55 Rhodfa Morgan Drive, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2NT
£96,027.75
- photos
gynnig
Manylion Allweddol
Mae'r tŷ fforddiadwy hyfryd hwn yn dŷ pen teras â 3 ystafell wely. Mae wedi'i leoli ar gyrion tref Caerfyrddin. Ym mhentref Llangynnwr, mae siop ac ysgol iau. Gan fod y tŷ hwn ar gyrion Caerfyrddin, mae ystod pellach o gyfleusterau ar gael sy'n cynnwys siopau adwerthu, sinema, ysgolion, canolfannau deintyddol a meddygol, campfa, a safleoedd bysiau a gorsafoedd trenau. Mae cysylltiadau ffyrdd da â Llanelli ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol.
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.
Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 25 Mai 2021.
Y pris fforddiadwy ar gyfer yr eiddo hwn yw £96,027.75, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £167,500 felly byddech yn prynu 57.33% o'r eiddo hwn.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.
- Llawr Gwaelod: Cyntedd, cegin, ardal fwyta, ystafell fyw a thoiled lawr stâr
- Llawr Cyntaf: Un ystafell wely ddwbl ag en-suite, un ystafell wely ddwbl, un ystafell wely sengl ac ystafell ymolchi
- Allanol: Dau le parcio dynodedig a gardd gefn
Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.
Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni y cartref hwn ar gael.
I drefnu ymweliad a gofyn am ragor o wybodaeth am yr eiddo, cysylltwch â Mrs Green drwy e-bost emma.green21@outlook.com neu ffoniwch 07890266120.
Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.
Tai
Mwy ynghylch Tai