Mae 2 dŷ pâr tair ystafell wely ar werth yn Heol Cae Pownd
94 a 96 Heol Cae Pownd, Cefneithin, Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, SA14 7BX

£160,000.00

Manylion Allweddol

Mae'r ddau dŷ fforddiadwy yn dai pâr tair ystafell wely wedi'u lleoli yn Heol Cae Pownd ym mhentref Cefneithin. Mae'r datblygiad hwn yn agos at Cross Hands lle y mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael, gan gynnwys siopau manwerthu, sinema, ysgol, campfa a chanolfannau meddygol a deintyddol.  Mae gan y tŷ gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer dau gerbyd yn ogystal â gardd gefn. 
 
Disgwylir i'r tŷ gael ei gwblhau tua mis Rhagfyr 2023, ac mae'r tŷ newydd hwn ar gael i brynwr cymwys. I weld a allech fod yn gymwys i brynu'r tŷ hwn, gweler ein meini prawf cymhwysedd.
 
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein meini prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi. 
 
Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 22 Hydref 2023.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr eiddo hwn neu i drefnu i weld yr eiddo hwn, ffoniwch Susan Howells, Persimmon, 07593 441 760, neu anfonwch neges e-bost at parccerrig.wwal@persimmonhomes.com.

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.