Tŷ ar wahân â thair ystafell wely ar Heol Pen-y-groes, Gors-las
Llain 1, Heol Pen-y-groes, Gors-las SA14 7LA

£83,839

Manylion Allweddol

Tŷ ar wahân â thair ystafell wely yw'r tŷ fforddiadwy hwn, sydd wedi'i leoli ar ddatblygiad newydd a fydd yn cael ei adeiladu ar Heol Pen-y-groes yng Ngors-las.

Mae'r datblygiad yn agos i Cross Hands, lle mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael, gan gynnwys siopau manwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa.

Mae gan yr ardal gysylltiadau rhagorol drwy ffyrdd megis yr A40, A48, A484 a'r A485. Mae Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin oll o fewn pellter teithio hawdd, ac felly mae'r lleoliad hwn yn un delfrydol. Rhydd-ddeiliadaeth.

Mae disgwyl i'r tŷ gael ei gwblhau tua mis Awst 2019, ac mae ar gael i brynwyr cymwys.

I gael rhagor o fanylion am y datblygiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â'r datblygwr, Neal Atkins, NBA Development Ltd, drwy ffonio 07971 969185 neu anfon e-bost.

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.