Ty Newydd ym Mharc Brynderi, Llanelli
Llain 212, 66 Maes Delfryn, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 9PX

£78,872

Manylion Allweddol

Dŷ par â thair ystafell wely yw'r tai fforddiadwy hyn. Maent wedi'u lleoli ar safle Parc Brynderi yn Llanelli, sydd ar gyrion tref Llanelli. Maent ar gyrion Llanelli, lle mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael, gan gynnwys siopau manwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa. Bydd gennych gysylltiadau ffyrdd da lle gallwch gyrraedd yr M4 drwy'r A4138. Mae Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin oll o fewn pellter teithio hawdd, ac felly mae'r lleoliad hwn yn un delfrydol. Rhydd-ddeiliadaeth.

Mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda ni i fodloni ein meini prawf er mwyn gallu prynu'r eiddo hwn.

Mae disgwyl i'r ty newydd gael ei gwblhau tua 27 Tachwedd 2020, ac mae ar gael i brynwyr cymwys. Bydd enwebiadau ar gyfer prynwyr i’r ty hwn yn cael eu gwneud o 25 Awst 2020 ymlaen.

Y pris fforddiadwy yw £78,872 a gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £140,000 felly byddech yn talu 56.34% o ecwiti.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.

  • Y Llawr Gwaelod: Cegin, toiled, ystafell fyw/ystafell fwyta cynllun agored
  • Y Llawr Cyntaf: 3 Ystafell wely, ystafell ymolchi
  • Allanol: Gardd gefn, lle parcio ar gyfer dau gar

Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dwr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.

Bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) y cartref hwn ar gael gan y datblygwr ar ôl i'r gwaith adeiladu gael i gwblhau.

I gael rhagor o fanylion am y datblygiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â'r datblygwr, Persimmon, drwy ffonio 01554 701915. Ei oriau agor yw Dydd Llun - Dydd Sul*: 11am i 6pm. *Ar gau Dydd Mawrth a Dydd Mercher.

Dangosir lluniau at ddibenion enghreifftiol yn unig - gallai'r ty go iawn amrywio ychydig o'r lluniau hyn.

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.