Llain 42, Tŷ newydd 2 ystafell wely ym Mharc yr Onnen, Tre Ioan, Caerfyrddin
Llain 42, Parc yr Onnen, Heol Llysonnen, Tre Ioan, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3FB
£72,326
- photos
gynnig
Manylion Allweddol
Dyma dŷ fforddiadwy pen y teras, 2 ystafell wely, wedi'u lleol ar safle Parc yr Onnen yn Nhre Ioan. Mae canol tref Caerfyrddin o fewn cyrraedd hwylus, lle y mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael, sy'n cynnwys siopau manwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa. Mae cysylltiadau ffyrdd da â Llanelli ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol.
Disgwylir i'r tŷ gael ei gwblhau rhwng tua mis Hydref / mis Rhagfyr 2019, ac mae ar gael i brynwr cymwys. Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn o 3 Medi ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad hwn, cysylltwch â'r datblygwr Persimmon drwy ffonio 01792 229800. Yr amserau agor yw Dydd Llun - Dydd Sul*: 11am - 6pm. *Ar gau bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher.
Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.
Tai
Mwy ynghylch Tai