Parod i Rentu
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2024
- Sicrhewch eich bod yn gwybod pryd y mae eich rhent yn ddyledus
- Mae talu'ch rhent yn rhan o'ch contract
- Bydd angen i chi dalu'r gwahaniaeth os nad yw Credyd Cynhwysol neu fudd-dal tai yn talu'r rhent llawn
Debyd uniongyrchol
Dyma'r ffordd hawsaf a mwyaf diogel o dalu eich rhent. Mae landlordiaid preifat a chymdeithasol yn ei ffafrio.
Archeb sefydlog
Gallwch sefydlu archeb sefydlog gan eich banc i wneud taliadau rheolaidd. Cysylltwch â'ch swyddog tai i gael rhagor o wybodaeth.
Eiddo'r cyngor - cerdyn talu
Gallwch dalu'n bersonol drwy ymweld â'ch Canolfan HWB lleol yn Llanelli, Rhydaman neu Gaerfyrddin. Gallwch hefyd dalu mewn unrhyw Swyddfa Bost.
Eiddo'r Cyngor - talu dros y ffôn neu ar-lein.
01267 234567 neu 01267 679900.