Gwenwyn bwyd
Diweddarwyd y dudalen ar: 09/11/2024
Byddwn yn cael ein hysbysu am achosion o wenwyn bwyd a rhai afiechydon eraill a gludir gan fwyd. Yna cynhelir ymchwiliadau i achosion unigol a hefyd achosion o wenwyn bwyd mewn nifer o bobl.
Gwneir hyn i geisio atal salwch rhag lledaenu o fewn y gymuned ac i geisio darganfod rhesymau posibl. Byddwn hefyd yn rhoi cyngor i'r claf sut i atal yr haint rhag lledaenu yn y cartref.
Gellwch gael rhagor o wybodaeth am glefydau a chyflyrau ar y gwefannau canlynol:
- Gwybodaeth a chyngor am gyflyrau a thriniaethau gan GIG Cymru
- Clefydau heintus: gwybodaeth fanwl gan Gov.uk
Os ydych yn ystyried eich bod yn dioddef o wenwyn bwyd, dylech fynd i weld eich meddyg teulu a gofynnir am sampl gennych. Bydd hyn yn canfod unrhyw organeb a gludir gan fwyd a all fod yn bresennol, fydd yn gymorth i roi canolbwynt i ymchwiliadau.