Tŷ canol teras â dwy ystafell wely ar werth yn Llanelli
70 Maes Delfryn, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 9PX

£77,570.25

Manylion Allweddol

Mae'r cartref fforddiadwy hwn yn dŷ canol teras dwy ystafell wely sydd wedi'i leoli ar safle Parc Brynderi yn Llanelli, sydd ar gyrion Tref Llanelli. Mae ar gyrion Llanelli lle y mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael, sy'n cynnwys siopau manwerthu, sinema, canolfannau meddygol a deintyddol a champfa. Bydd gennych gysylltiadau ffordd gwych lle bydd gennych fynediad i'r M4 drwy'r A4138. Mae Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin oll o fewn pellter teithio hawdd, ac felly mae'r lleoliad hwn yn un delfrydol.

Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.

Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 20 Mehefin 2022.

I gael rhagor o wybodaeth am y tŷ hwn cysylltwch â Miss Jones ar 07531355771 727 neu drwy anfon e-bost at joneskatie727@gmail.com.

Cyflwyno cynnig am yr eiddo hwn

Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.