Byngalo pâr â dwy ystafell wely yn Dan Y Dderwen, Rhydargaeau
8 Dan Y Dderwen, Rhydargaeau, Sir Gaerfyrddin, SA32 7DQ
£106,213.01
- photos
gynnig
Manylion Allweddol
Mae'r byngalo pâr hwn â dwy ystafell wely, sydd wedi'i gyflwyno'n dda, yn Dan Y Dderwen. Mae'n agos i dref Caerfyrddin. Bydd gennych fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys ysbyty rhanbarthol, Ysgolion, prifysgol, adwerthwyr cenedlaethol a lleol, caffis, bariau, bwytai, mynediad i'r M4, rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol, a chyfleusterau hamdden. Byddwch yn mwynhau golygfeydd godidog o gefn gwlad agored sy'n cynnwys Mynyddoedd Brechfa, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer pedwar cerbyd, gardd gefn a man wedi'i balmantu o flaen y tŷ. Band C y Dreth Gyngor.
Bydd yr eiddo hwn yn barod i symud i mewn iddo pan fydd y gwerthiant wedi'i gwblhau.
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.
Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 26 Medi 2023.
I gael rhagor o fanylion ynghylch y tŷ hwn neu i drefnu apwyntiad i weld y tŷ, cysylltwch â'r perchennog, sef Miss Poacher, drwy ffonio 07843 811822 neu anfon neges e-bost at bpoacher@hotmail.co.uk. Gellir gweld y tŷ drwy apwyntiad yn unig.
Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.
Tai
Mwy ynghylch Tai