Tŷ pâr newydd â 2 ystafell wely ar werth yng Nghlos Benallt Fawr, Fforest, yr Hendy.
Llain 18, 53 Clos Benallt Fawr, Fforest, yr Hendy, SA4 0TQ
£71,111.00
- photos
gynnig
Manylion Allweddol
Mae'r tŷ pâr newydd hwn sydd â 2 ystafell wely wedi'i leoli yng Nghlos Benallt Fawr, Fforest, yr Hendy. Mae'r tŷ hwn wedi'i leoli tua 5 milltir o Ganol Tref Llanelli ac nid yw'n bell o Bontarddulais. Mae Canol Tref Llanelli yn cynnig ystod eang o gyfleusterau sy'n cynnwys, siopau adwerthu, sinema, canolfannau deintyddol a meddygol, campfa a siopau bwyd. Bydd gennych gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli ac Abertawe.
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda ni a bodloni ein meini prawf i brynu'r eiddo hwn.
Disgwylir iddo gael ei gwblhau tua Chwefror / Mawrth / Ebrill 2021. Mae'r tŷ newydd hwn ar gael i brynwyr sy'n gymwys. Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 2 Chwefror 2021.
Y pris fforddiadwy ar gyfer yr eiddo hwn yw £71,000, gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £129,000 felly byddech yn prynu 55.12% o'r eiddo hwn.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy yn y dyfodol.
- Y Llawr Gwaelod: Cegin, ystafell fwyta ac ystafell fyw cynllun agored, toiled lawr stâr.
- Y Llawr Cyntaf: 2 ystafell wely ac ystafell ymolchi i'r teulu.
- Y tu allan: Gardd gefn a lleoedd parcio i un car.
Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.
Bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) y cartref hwn ar gael gan y datblygwr.
I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad hwn, cysylltwch â'r datblygwr Persimmon drwy ffonio 01792 229800. Mae ar agor ddydd Llun - ddydd Sul *11am - 6pm. *Ar gau bob dydd Mawrth a dydd Mercher*
Enghreifftiau yn unig yw'r lluniau - mae'n bosibl y bydd y tŷ go iawn yn amrywio rhywfaint i'r lluniau.
Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.
Tai
Mwy ynghylch Tai