Tŷ pâr â dwy ystafell wely yn natblygiad ‘The Bridles’, Llanelli
Llain 76, 3 Ffordd Y Glowyr, Carwae, Cidweli, Sir Gaerfyrdin, SA17 4JJ
£77,429
- photos
gynnig
Manylion Allweddol
Mae'r tŷ fforddiadwy hwn yn dŷ pâr sydd â dwy ystafell wely a fydd yn cael ei adeiladu yn natblygiad ‘The Bridles’, Trimsaran. Mae'r datblygiad yn agos i Ganol Tref Llanelli a Thref Caerfyrddin lle y mae rhai cyfleusterau ar gael sy'n cynnwys banc, swyddfa bost, siopau adwerthu, canolfan hamdden, sinema, gorsaf drenau ac ysgolion. Mae'r eiddo hwn ger Cae Rasio Ffos Las lle y mae digwyddiadau rasio ceffylau'n cael eu cynnal ynghyd â nifer o ddigwyddiadau cyffrous eraill. Mae'r cartref hwn wedi'i amgylchynu gan gefn gwlad godidog Cymru i chi ei grwydro. Mae gan yr eiddo gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Caerfyrddin ac Abertawe, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol. Mae hwn yn gyfle delfrydol i rywun brynu Tŷ Fforddiadwy. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer un cerbyd/dau gerbyd yn ogystal â gardd gefn.
Mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda ni i fodloni ein meini prawf er mwyn gallu prynu'r eiddo hwn.
Disgwylir i gael eu cwblhau tua Ionawr 2021. Mae'r cartref newydd hwn ar gael i brynwyr sy'n gymwys. Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn o 9 Mawrth 2021 ymlaen. Mae'r holl fanylion am y tŷ hwn ar gael gan y datblygwr.
Y pris fforddiadwy yw £77,429 Gwerth yr eiddo ar y farchnad agored yw £102,500 felly byddech yn prynu 75.54% o'r eiddo hwn.
Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw gweddill yr ecwiti fel ail-brydiant, ar ôl y morgais, i sicrhau bod yr eiddo yn parhau'n fforddiadwy am byth.
- Y Llawr Gwaelod: cyntedd, toiled, lolfa/lle bwyta, cegin
- Y Llawr Cyntaf: Dwy ystafell wely, ystafell ymolchi i'r teulu
- Allanol: Gardd gefn a man parcio preifat ar gyfer un car
Mae'r eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad dŵr, system ddraenio, trydan a gwres canolog nwy.
Bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) y cartref hwn ar gael gan y datblygwr.
I gael rhagor o fanylion am y datblygiad hwn, cysylltwch â'r datblygwr drwy ffonio 01554 708 249 neu drwy anfon neges e-bost at thebridles.wwal@persimmonhomes.com. Yr amserau agor yw Dydd Llun i Ddydd Sadwrn*: 11am - 6pm. *Ar gau bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher.
Enghreifftiau yn unig yw'r lluniau - mae'n bosibl y bydd y tŷ go iawn yn amrywio rhywfaint i'r lluniau.
Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.
Tai
Mwy ynghylch Tai