Mae Tŷ pâr â dwy ystafell wely ar werth yn Awel y Mynydd, Pen-bre.
Llain 66 Awel y Mynydd, Pen-bre, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA16 0FJ
£79,932.00
- photos
gynnig
Manylion Allweddol
Mae'r tŷ fforddiadwy yn dai pâr dwy ystafell wely wedi'u lleoli yn Awel y Mynydd ym Mhen-bre. Mae'r datblygiad yn agos i Ben-bre ac yn daith fyr mewn car i Dre Llanelli. Mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael yn yr ardal, mae hyn yn cynnwys siopau manwerthu, sinema, Ysgol, campfa, Parc Gwledig Pen-bre, Traeth Porth Tywyn, Cwrs Golff, canolfannau deintyddol a meddygol. Mae gan y tai gysylltiadau ffyrdd gwych â Llanelli, Abertawe a Chaerfyrddin, felly mae'r lleoliad yn ddelfrydol i fyw ynddo. Mae gan yr eiddo fan parcio preifat ar gyfer un gerbyd yn ogystal â gardd gefn.
Disgwylir iddynt gael eu cwblhau tua mis Mawrth 2025, mae'r cartrefi newydd ar gael i brynwyr cymwys. I weld a allech fod yn gymwys i brynu'r cartrefi hyn, gweler ein meini prawf cymhwysedd.
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a'ch bod yn bodloni ein Meini Prawf cymhwysedd er mwyn i ni allu eich cyflwyno i'r perchennog er mwyn iddo gytuno i werthu'r eiddo i chi.
Enwebir prynwyr ar gyfer y tŷ hwn ar ôl 21 Ionawr 2025.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr eiddo hwn neu i drefnu i'w weld, ffoniwch Matt Lowe, Persimmon, ar 01554 701225 neu anfonwch e-bost at awelymynydd.wwal@persommonhomes.com.
Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun, drwy eu harchwilio neu fel arall, eu bod yn gywir.