Cadw eich cartref yn ddiogel
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024
Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i gadw'ch cartref yn ddiogel yn ystod misoedd y gaeaf.
Osgoi pibellau wedi'u rhewi:
- Dewch o hyd i'r stop tap – Gwnewch yn siŵr y gallwch chi ddiffodd y dŵr i'ch cartref yn gyflym os bydd pibell yn byrstio neu os bydd dŵr yn gollwng. Fel arfer mae'r stop tap o dan y sinc, ond os nad ydych yn gallu dod o hyd iddo, cysylltwch â'ch swyddog tai.
- Gwresogi eich cartref – fel tenant Cyngor, rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwresogi'ch cartref yn ddigonol drwy gydol misoedd y gaeaf. Nid oes angen i hyn fod ar lefelau uchel ond bydd yn helpu i osgoi pibellau'n byrstio a llwydni/lleithder.
Os ydych yn mynd i ffwrdd:
- Dywedwch wrth eich swyddog tai a chofiwch ddarparu manylion cyswllt arall.
- Cadwch eich gwres ar lefel isel er mwyn osgoi pibellau'n byrstio. Neu, os ydych chi'n rhoi gwybod i ni, gallwn ddraenio eich system i lawr.
- Diffoddwch y tap stop i'ch cartref cyn i chi fynd i ffwrdd.
Pwysig – nid yw cynnwys eich cartref wedi'i gynnwys gennym os yw'ch cartref yn cael ei ddifrodi gan bibellau wedi'u byrstio Sicrhewch fod gennych yswiriant cynnwys digonol.