Grant Tyfu Busnes

5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Ni ellir defnyddio'r grant ar gyfer:

  • cyflogau staff neu unrhyw drethi eraill
  • Cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir
  • Gwella eich safle / mân waith adeiladu.
  • Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno
  • Gosod gosodion a ffitiadau newydd yn lle rhai presennol
  • Costau cyfalaf gweithio megis stoc, rhent, ardrethi, gweinyddu.
  • Tystysgrifau, trwyddedau, aelodaeth a chysylltiad â chyrff llywodraethu
  • Costau gwaith a wneir sy'n ofyniad statudol o dan y gyfraith, e.e. caniatâd cynllunio, trwyddedau safle ac ati.
  • Astudiaethau dichonoldeb
  • Ffïoedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys ysgrifennu cynlluniau busnes/cynigion ac unrhyw ffïoedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grant
  • Offer ail-law a brynwyd gan ddefnyddio arian grant cenedlaethol neu Ewropeaidd yn ystod y saith mlynedd blaenorol.
  • Datblygu'r wefan a datblygu e-fasnach
  • Deunyddiau marchnata

Ni allwch hawlio:

  • Ni allwch hawlio'r TAW ar unrhyw eitemau os yw eich busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW. Os nad yw eich busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, gall eich cais gynnwys y TAW.
  • unrhyw beth sydd wedi'i ymrwymo neu ei brynu cyn i'ch cais gael ei gymeradwyo'n llawn a'ch bod wedi derbyn yr arian grant.
  • am unrhyw eitemau y telir amdanynt mewn arian parod. 
  • am unrhyw eitemau a brynir drwy brynu prydlesi, hurbrynu, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid.