Grant Tyfu Busnes
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Y Cynnig
- 3. Cymhwysedd
- 4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 6. Offer ail-law
4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, gallwch ddefnyddio'r grant ar gyfer gwariant cyfalaf a/neu refeniw.
Gall gwariant cyfalaf gynnwys:
- Prynu offer a pheiriannau newydd neu ail-law*. Ni allwch brynu faniau na cheir.
- Cysgodfannau, gasebos i greu neu wella ardal fasnachu awyr agored.
- Caledwedd TG a thelathrebu
- Gosodion a ffitiadau, celfi ac offer swyddfa cyffredinol
*Mae'r amodau'n berthnasol, darllenwch yr adran hon ar brynu eitemau ail-law.
Gall gwariant refeniw arbenigol gynnwys:
- Hyfforddiant arbenigol/technegol (nid yn achrededig o reidrwydd)
- Comisiynu/gosod peiriannau
- Meddalwedd arbenigol
- Costau dosbarthu unrhyw offer
- Ymgynghorwyr arbenigol*
- Ardystiad Sicrhau Ansawdd*
* Asesir ar sail achosion unigol.