Trawsnewid Trefi

7. Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant

Bydd unrhyw grantiau a ddarperir hyd at werth £250,000 yn cael eu hadennill os bydd eich busnes:

  • yn peidio â masnachu
  • yn newid yn sylweddol o'r manylion a roddwyd gennych yn eich cais
  • yn gwerthu unrhyw eitemau a brynir gydag arian grant
  • yn newid perchnogaeth
  • yn symud allan o Sir Gaerfyrddin neu'n cael ei werthu

 Bydd angen i chi ad-dalu unrhyw arian yr ydych wedi'i dderbyn o'r grant fel a ganlyn:

Swm y cyllid Dyddiad o'r taliad terfynol Y swm sydd i'w ad-dalu
Hyd at £250,000 O fewn 5 mlynedd Cyllid i'w ad-dalu'n llawn
Hyd at £250,000 Ar ôl 5 mlynedd Dim cyllid i'w ad-dalu
£250,000 + O fewn 10 mlynedd Cyllid i'w ad-dalu'n llawn
£250,000 + Ar ôl 10 mlynedd Dim cyllid i'w ad-dalu

 Mae'n rhaid ad-dalu'r grant yn llawn ar orchymyn os:

  • canfyddir eich bod wedi gwneud unrhyw gamliwio yn eich cais.
  • ydych wedi torri telerau'r grant. Byddwch yn derbyn manylion llawn y telerau os bydd eich cais yn llwyddiannus.