Trawsnewid Trefi

5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Mae costau anghymwys yn cynnwys:

  • llog ar ddyled;
  • taliadau banc ar gyfrifon;
  • costau gwarantau a ddarperir gan fanc neu sefydliad ariannol arall;
  • taliadau am drafodion ariannol, comisiynau a cholledion cyfnewid tramor, a threuliau eraill sy'n gyfan gwbl ariannol;
  • taliadau benthyciad;
  • llog neu daliadau gwasanaeth – sy'n codi ar brydlesi a threfniadau hurbrynu;
  • costau sy'n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr;
  • costau sy'n gysylltiedig â dirwyn cwmni i ben;
  • drwgddyledion sy'n deillio o fenthyciadau i gyflogeion, perchnogion, partneriaid, cyfarwyddwyr, gwarantwyr neu gyfranddalwyr;
  • dirwyon, cosbau ariannol a threuliau ymgyfreitha;
  • costau staff nad ydynt i'w priodoli'n uniongyrchol i gyflawni'r prosiect;
  • hyfforddiant sy'n orfodol o dan ddarpariaeth statudol;
  • talu am roddion;
  • costau adloniant;
  • atgyweirio a chynnal a chadw oni bai eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect;
  • costau annibynnol gwaith sy'n cael ei gyflawni fel gofyniad statudol;
  • costau tybiannol;
  • taliadau am weithgarwch o natur wleidyddol uniongyrchol;
  • difidendau i gyfranddalwyr;
  • costau a ysgwyddir gan unigolion wrth sefydlu a chyfrannu at gynlluniau pensiwn preifat, neu sefydlu cynlluniau o'r fath gan sefydliadau sy'n derbyn cronfeydd strwythurol;
  • taliadau am bensiynau heb eu hariannu; a
  • disgownt
  • cynnal a chadw cyffredinol
  • costau cynnal a chadw parhaus
  • Ffioedd cyfreithwyr
  • Ffioedd cynllunio
  • Unrhyw gostau a ysgwyddwyd cyn cymeradwyaeth cam 1 i symud ymlaen
  • Unrhyw gostau nad ydynt yn cael eu caffael yn unol â rheolau caffael trydydd parti
  • Ni allwch wneud cais am gyllid i gefnogi gwaith yr ydych eisoes wedi'i ddechrau.

Ni fydd prosiectau sy'n creu gofod masnachol gwag ar ôl eu cwblhau yn gymwys i gael cyllid

Rydym yn eich annog i gysylltu â ni yn gynnar i drafod unrhyw gynigion. Efallai y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu a thrafod ystyriaethau dylunio allweddol.