Trawsnewid Trefi

4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Os caiff eich mynegiant o ddiddordeb ei gymeradwyo a gofynnir i chi gyflwyno cais llawn gallwch wneud cais am gyllid i dalu costau sy'n cynnwys:

Gwelliannau i eiddo masnachol

Gall gwaith allanol i'r adeilad gynnwys gwaith yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol ar gyfer uniondeb strwythurol yr eiddo. Gallai'r eitemau gynnwys: 

  • Blaen siopau;
  • Arwyddion dwyieithog;
  • Ffenestri a drysau;
  • Goleuadau allanol;
  • Toeau a simneiau;
  • Cafnau a pheipiau dŵr glaw;
  • Rendro, glanhau cerrig ac atgyweirio, ail-bwyntio; a 
  • Gwaith strwythurol.

Gall gwaith mewnol i'r adeilad gynnwys yr holl waith, yn waith gweladwy neu strwythurol, sy'n angenrheidiol er mwyn cwblhau'r prosiect i ofynion Rheoliadau Adeiladu. Gallai hyn gynnwys:

  • Ffenestri a drysau;
  • Gwneud gwelliannau o ran mynediad;
  • Waliau, nenfydau, goleuadau;
  • Mesurau effeithlonrwydd ynni pan gânt eu cynnwys fel rhan o'r cynllun cyffredinol;
  • Cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi;
  • Cyfleusterau llesiant (e.e. cyfleusterau ystafell ymolchi a glanhau hanfodol yn unig); a
  • Gwaith strwythurol

Seilwaith Gwyrdd

  • Waliau Gwyrdd
  • Toeau Gwyrdd
  • Gerddi Glaw
  • Parciau 'Poced'

Ni fydd y cyllid hwn yn cyfrannu at gostau cynnal a chadw parhaus yn y blynyddoedd ariannol i ddod.